Mater - penderfyniadau

Independent Member attendance at Committee Meetings.

16/03/2021 - Independent Member attendance at Committee Meetings

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i gytuno ar rota presenoldeb Aelodau Annibynnol i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor a chanllawiau cysylltiol. Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried rota drafft a phump canllaw a awgrymwyd i egluro’r broses a dibenion yr ymweliadau.

 

Cytunwyd yn flaenorol bod angen un Aelod Annibynnol i fynychu pob cyfarfod ac y dylai dau fynychu cyfarfodydd Cyngor Sir llawn ble bo’n bosibl. Ar ganllaw (3) cytunwyd y byddai swyddogion yn darparu datganiad byr ar gyfer y mynychwyr i’w ddarllen allan mewn cyfarfodydd, os gofynnir iddynt wneud hynny.

 

Cytunwyd y dylai’r cyfarfod ar 8 Mawrth gael ei symud i 1 Mawrth ar gyfer diwedd tymor y Cadeirydd mewn swydd ac mai’r nod oedd cynnwys adborth mynychu cyfarfodydd ar y rhaglen honno.  Ar y sail hwnnw, cytunwyd y byddai’r Aelodau Annibynnol yn darparu dyddiau cyfarfod a ffefrir i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd er mwyn llenwi’r rota.

 

Roedd y Swyddog Monitro wedi tynnu sylw at y llyfrgell cyfarfodydd a gofnodwyd oedd ar gael ar wefan y Cyngor fel cyfeiriad defnyddiol. Hefyd dywedodd y byddai cyfarfodydd ym mis Ebrill yn cael eu canslo i ddefnyddio’r adnoddau ar gyfer yr Etholiadau ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno ar rota presenoldeb a’r canllawiau ar sut y dylid eu cynnal.