Mater - penderfyniadau
Funding and Investment Updates.
21/05/2021 - Funding and Investment Updates.
Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad byr am fuddsoddi a nododd fod prisiad diweddaraf y gronfa (fel yr oedd ar 31 Hydref) heb newid rhyw lawer ond ei fod ychydig yn is na’r sefyllfa ym mis Medi 2020.
Gofynnodd Mr Hibbert a allai’r Pwyllgor gael mwy o fanylion am strategaeth ecwiti synthetig y Gronfa, rhaeadru gwarant cyfochrog ac elfennau eraill o’r strwythur llwybr hedfan. Cadarnhaodd Mr Harkin a Mr Middleman y gallai Mercer ddarparu mwy o wybodaeth am hyn yn y sesiynau hyfforddiant a drefnir.
Cadarnhaodd Mr Middleman o ran y sefyllfa ariannu, fod y Gronfa ar y llwybr iawn mwy neu lai o ran y sefyllfa ariannu yn erbyn prisiad actiwaraidd 2019. Mae’r sefyllfa yn tueddu ar i lawr ychydig o ddiwedd mis Medi, ond hyd yma mae’r Gronfa ar y blaen i’r amserlen yn seiliedig ar amcangyfrifon sefyllfa gwerth asedau. Ond, mae ansicrwydd yn parhau yn y rhagolygon ar gyfer elw ar fuddsoddiadau’r dyfodol allai effeithio ar sefyllfa hydaledd y Gronfa.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi fod diweddariad y Farchnad a’r Economi ar gyfer y chwarter wedi dod i ben 30 Medi 2020.
(b) Bod y Pwyllgor yn ystyried crynodeb y Rheolwr Perfformiad a’r Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020.
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi diweddariad y Fframwaith Ariannu a Rheoli Risg a chanlyniadau’r adolygiad gwirio iechyd blynyddol.
(d) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniadau adolygu darpariaeth Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol y Gronfa.