Mater - penderfyniadau
Review of Political Balance
25/03/2022 - Review of Political Balance
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod yna angen i adolygu cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor wedi i’r tri aelod a oedd yn weddill o Gr?p Annibynnol Sir y Fflint ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol. Roedd yna un aelod amhleidiol o’r Cyngor.
Roedd grwpiau gwleidyddol y Cyngor a’r nifer o Aelodau ar bob un fel a ganlyn:
Llafur |
34 |
Y Gynghrair Annibynnol |
16 |
Ceidwadwyr |
6 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
6 |
Annibynnol Newydd |
4 |
Annibynnol |
3 |
Aelod amhleidiol |
1 |
Dyrannwyd seddi pwyllgor i grwpiau gwleidyddol (cyn belled ag yr oedd hynny’n ymarferol) yn yr un gyfran ag yr oedd gan y grwpiau hynny o ran cyfanswm aelodau’r Cyngor Sir. Amlinellwyd manylion yr hyn yr oedd rhaid ei gydnabod wrth ddyrannu’r seddi ar y Pwyllgorau yn yr adroddiad.
Roedd cyfrifiad y cydbwysedd gwleidyddol wedi ei atodi i’r adroddiad. Roedd yn un dyraniad cyfreithlon posibl o seddi a gall dyraniadau cyfreithlon posibl eraill fodoli.
Fe allai seddi a gaiff eu dal yn ffurfiol gan Gr?p Annibynnol Sir y Fflint gael eu trosglwyddo yn eu cyfanrwydd heb i unrhyw gr?p gwleidyddol arall gael eu heffeithio. Diolchodd i’r Cynghorydd Peers am gytuno i ystyried yr adroddiad hwn yn y cyfarfod hwn yn hytrach na’r cyfarfod ym mis Tachwedd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Roberts a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y seddi ar y Pwyllgorau yn cael eu dyrannu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol fel y dangosir yn Atodiad A; a
(b) Bod unrhyw newidiadau i’r rhai a enwebir ar gyfer lleoedd ar Bwyllgor yn cael eu datgan i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl.