Mater - penderfyniadau

Welsh Government Consultation on Combined Joint Committees (CJCs)

28/01/2021 - Welsh Government Consultation on Combined Joint Committees (CJCs)

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyhoeddi papur ymgynghori ar ei chynigion i greu cyrff cyfreithiol newydd i weithio’n rhanbarthol, o’r enw Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau). Roedd y p?er i gymeradwyo rheoliadau i greu Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi’u cynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gymeradwywyd yn y Senedd yn ddiweddar. Roedd LlC yn ymgynghori ar y rheoliadau drafft ar gyfer CBCau.

 

            Byddai pedwar CBC yn cyfateb i ardaloedd y Bargeinion Twf yng Nghymru, a’r aelodau ar y cychwyn fyddai holl Arweinwyr y Cynghorau yn yr ardaloedd hynny. Byddent yn arfer swyddogaethau yr oedd LlC yn ystyried ei bod orau iddynt gael eu harfer yn rhanbarthol. Ar hyn o bryd, y cynnig oedd iddynt ymgymryd â datblygu economaidd, cludiant a chynllunio strategol. Byddai’r CBCau yn rhannu rheolau craidd cyffredin ond gellid eu teilwra i gyd-fynd â threfniadau rhanbarthol a oedd eisoes ar waith ac ar gyfer anghenion pob rhanbarth.

 

            Roedd Gogledd Cymru ar y cyfan, a’r Cyngor yn benodol, yn defnyddio patrwm effeithiol a chadarn o gydweithio a gweithio’n rhanbarthol. Gallai’r Cyngor felly gefnogi creu CBCau fel ffordd o wneud mwy o waith ar y cyd yn rhanbarthol.

 

            Roedd gan y rhanbarth Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi ei sefydlu ers tro ac roedd ar hyn o bryd wrthi’n cymeradwyo’r Fargen Dwf derfynol gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Roedd felly yn hanfodol bod CBC Gogledd Cymru’n ychwanegu gwerth at waith BUEGC.

 

            O’r ddogfen ymgynghori, roedd yn debyg y byddai gan CBCau bwerau a oedd yn gorgyffwrdd â swyddogaethau’r prif gynghorau yng Ngogledd Cymru ac roedd angen mwy o eglurder am union gwmpas y swyddogaethau.

 

            Byddai CBCau yn penodi eu swyddogion eu hunain a byddai angen iddynt benodi swyddogion statudol allweddol fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151. Gallai cost y swyddi hyn gael ei chadw i’r isafswm trwy roi’r cyfrifoldebau i awdurdod cynnal a defnyddio personél sy’n cael eu cyflogi’n barod i wneud y gwaith.

 

            Roedd LlC hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn cynnig y byddai CBCau yn ysgwyddo cyfrifoldeb am baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Roedd y Gr?p Strategaeth Gynllunio wedi paratoi ymateb manwl i gwestiynau’r ymgynghoriad, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Yn olaf, roedd LlC yn cynnig y dylai CBCau ysgwyddo rôl paratoi’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol a datblygu polisïau ar gyfer cludiant yn y rhanbarth.  Trafodwyd y cynnig yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 8 Rhagfyr 2020, a oedd yn cefnogi sail yr ymateb.

 

            Roedd amlinelliad o ymateb wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad yn ogystal â’r ymateb i lunio Cynlluniau Datblygu Strategol a oedd wedi’i gymeradwyo gan y Gr?p Strategaeth Gynllunio.

 

            Mynegodd yr Aelodau bryder am y costau a allai ddeillio o sefydlu CBCau, wrth fod angen cael gweithwyr yn lle’r swyddogion a fyddai’n cael eu neilltuo ar eu cyfer a’r camsyniad y byddai’r cynigion yn creu arbedion. Fe wnaethant sylwadau ar y meysydd lle’r oedd cydweithio’n rhanbarthol eisoes yn gweithio’n llwyddiannus.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Cynllun Datblygu Strategol yn annhebygol o nodi safleoedd i’w datblygu, ond gallai bennu sawl t? y byddai angen i bob awdurdod lleol ei ddarparu. Byddai’r Cynllun Datblygu Lleol wedyn yn pennu ym mhle y dylai’r tai hynny gael eu hadeiladu.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai dau ymateb yn cael ei baratoi – un ar CBCau ac un ar y Cynllun Datblygu Strategol a byddent yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau Cabinet perthnasol. Roedd trafodaethau wedi’u cynnal yngl?n â sut y gallai biwrocratiaeth a chostau gael eu lleihau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r amlinelliad o’r ymateb i’r ymgynghoriad ar CBCau, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i orffen llunio ymateb manwl wrth ymgynghori â’r Arweinydd a’r Aelodau Cabinet perthnasol;

 

 (b)      Cefnogi’r ymateb a baratowyd gan y Gr?p Strategaeth Gynllunio ar baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol; a

 

 (c)      Chefnogi’r ymateb i’r cynigion yngl?n â Chludiant, yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi.