Mater - penderfyniadau

Establishment of Sport North Wales Partnership

25/01/2021 - Establishment of Sport North Wales Partnership

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cyngor fod yn bartner ym Mhartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).

 

Roedd ChGC yn sefydliad cenedlaethol a oedd yn gyfrifol am gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwella perfformiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac un a oedd yn y gorffennol wedi darparu cyllid blynyddol i bob awdurdod lleol a phartneriaid eraill i gynnal nifer o raglenni ac ymyraethau chwaraeon ar draws Gogledd Cymru. Roedd y rheini’n cynnwys Pobl Ifanc Egnïol a’r Fenter Nofio am Ddim.

 

Y weledigaeth ar gyfer ChGC oedd datblygu Gwlad Egnïol gyda chefnogaeth Strategaeth Chwaraeon Cymru. Mewn ymateb i’r Strategaeth hon, sefydlwyd partneriaeth gydweithredol yn 2018 gan ei rhoi ar waith i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ac achos busnes. Arweiniodd hynny at ffurfio ChGC gyda 13 o bartneriaid rhanbarthol.

 

Cynigiwyd y byddai pum sefydliad rhanbarthol ar draws Cymru yn y dyfodol, a ChGC fyddai rhanbarth y peilot. Roedd yr achos busnes wedi’i gyflwyno i Chwaraeon Cymru ac roedd eu Bwrdd i fod i wneud penderfyniad arno yn ddiweddarach yn y mis. Roedd pob un o’r 13 o bartneriaid yn cael eu gwahodd i gefnogi ffurfio ChGC yn ffurfiol, o dan fodel lle byddai awdurdod lleol yn ei ‘gynnal’. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cytundeb llywodraethu a’r achos busnes wedi’u hatodi i’r adroddiad. Roedd Aura’n cyd-arwain ar y prosiect, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr awdurdod cynnal. Byddai dau gorff llywodraethu a byddai angen cynrychiolaeth o’r Cyngor.

 

Croesawai’r Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn llwyddo.

 

            PENDERFYNWYD:

           

            Bod y Cabinet yn cefnogi sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).