Mater - penderfyniadau
North Wales Regional Partnership Board Annual Report 2019/20
28/01/2021 - North Wales Regional Partnership Board Annual Report 2019/20
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud bod angen i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi, cyhoeddi a chyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (LlC). Oherwydd y sefyllfa o argyfwng, dyddiad cyflwyno’r adroddiad blynyddol oedd diwedd Hydref 2020.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r partneriaid am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2019/20. Roedd yr adroddiad yn dangos y cynnydd oedd wedi’i wneud mewn perthynas â ffrydiau gwaith y Bwrdd yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai blaenoriaeth y Bwrdd yn 2019/2020 oedd cyflawni ei bedair rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ar gyfer “Cymru iachach”, a oedd wedi’u bwriadu i arwain at ddatblygu gwasanaethau cymunedol integredig yn gyflym ar draws y rhanbarth. Mewn blwyddyn heriol tu hwnt ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd ein timau ar draws Gogledd Cymru wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y cyfnod hwn i gynnig gwasanaeth i’n trigolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cadarnhau bod y Cabinet wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith sydd angen cael ei wneud gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; a
(b) Nodi’r gwaith a’r cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.