Mater - penderfyniadau
Audit Committee Annual Report
02/03/2021 - Audit Committee Annual Report
Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019/20 i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr. Wrth grynhoi’r meysydd allweddol, dywedodd nad oedd unrhyw feysydd pryder wedi’u nodi a bod ymarfer hunanasesiad y Pwyllgor wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa argyfwng.
Dywedodd Sally Ellis, er bod penderfynu ‘nodi’ adroddiadau yn aml yn briodol, gallai’r Pwyllgor ychwanegu gwerth trwy ystyried argymhellion ychwanegol lle bo angen. Dywedodd y Prif Swyddog y gallai swyddogion gynorthwyo trwy gyflwyno argymhellion mwy rhagweithiol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 8 Rhagfyr 2020.