Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 6) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6)

21/12/2020 - Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 6) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 6, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ym Mis 6 cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai popeth yn aros fel yr oedd, ac roedd yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf cyhoeddiadau Grantiau Argyfwng Llywodraeth Cymru.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £0.569 miliwn.  Roedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys arbedion wedi eu cyflawni drwy adolygiad parhaus gwariant dianghenraid, ond doedd ddim yn cynnwys effaith risgiau agored sylweddol ar incwm Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, na’r dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu gan arian wrth gefn. Nodwyd y rhesymau dros y symudiad ffafriol o £0.352 miliwn o Fis 5 yn yr adroddiad, gan gynnwys amrywiant sylweddol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Ieuenctid a Rhaglenni Strategol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol fanylion llawn y risgiau ariannol allweddol a risgiau newydd, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyllid argyfwng, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd tanwariant arfaethedig o £0.478m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £2.487m, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Wrth ddiolch i’r tîm Cyllid am eu gwaith, croesawodd y Cynghorydd Banks y £0.200 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ariannu rhan o ddyfarniad cyflog i athrawon.

 

Amlygodd y Cynghorydd Thomas gostau cludiant cynyddol fel maes o bryder.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er yr argyfwng cenedlaethol, fod y Cyngor mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd ac y gwnaethpwyd y mwyaf o hawliadau cyllid grant. Roedd nifer o risgiau sylweddol eto i’w datrys gyda Llywodraeth Cymru a byddai’r sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn yn effeithio ar y pwynt cychwyn ar gyfer cyllideb 2021/22.

 

O safbwynt Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y chwarter cyntaf, y disgwylid cyhoeddiad cadarnhaol ar arian i’w ddyrannu ar gyfer yr ail chwarter.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Williams.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau cyllido grant ar gyfer Cynnal Priffyrdd, Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg, heb unrhyw effaith ar gyllid craidd y Cyngor. Roedd crynodeb o’r sefyllfa ar wariant cyfalaf ym Mis 6 yn dangos tanwariant arfaethedig o £1.369 miliwn ar Gronfa’r Cyngor i’w gario ymlaen i 2021/22. Nodwyd arbediad unigol o £0.027 miliwn am waith wedi ei wneud ar y Cae Pob Tywydd yn Ysgol Uwchradd Elfed, oedd yn is nag a ragwelwyd.

 

Yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 yn gynharach yn y flwyddyn gyda diffyg mewn cyllid o £2.264 miliwn, roedd effaith derbyniadau cyfalaf ac arbedion a gyflawnwyd wedi golygu rhagamcan diwygiedig o £0.403 miliwn o arian dros ben.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas enghreifftiau o wneud y mwyaf o gyllid grant ar gyfer priffyrdd a chludiant er mwyn mynd i’r afael â phroblemau perthnasol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Banks y cymysgedd o brosiectau o fewn y Rhaglen Gyfalaf a thynnodd sylw at fodel ‘Mockingbird’.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Woolley a Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 Mis 6, fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet; a

 

 (b)      Ar ôl ystyried Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 Mis 6, fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet.