Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 7)
28/01/2021 - Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 7)
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 7. Roedd yr adroddiad yn rhagdybio beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllid Grant at Argyfwng Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredol o £0.196 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.373 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 6.
- Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.415 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.460 miliwn yn is na’r gyllideb.
- Rhagwelid y byddai balans terfynol ar 31 Mawrth o £2.633 miliwn.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa a ragwelid, y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers mis 6, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod hon yn sefyllfa gadarnhaol i fod ynddi ar y pwynt hwn.
Canmolodd yr Aelodau’r tîm cyllid am eu holl waith.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragwelid ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelid ar y Cyfrif Refeniw Tai.