Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 6)
25/01/2021 - Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 6)
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredol o £0.569 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.352 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 5.
- Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.415 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.478 miliwn yn is na’r gyllideb.
- Rhagwelid y byddai balans terfynol ar 31 Mawrth o £2.651 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers mis 5, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Roedd yr incwm o Dreth y Cyngor 1.4% yn is na’r targed, oedd gyfwerth ag £1.37 miliwn. Roedd disgwyl i’r incwm barhau i wella gan fod prosesau adfer bellach yn ôl ar waith yn llawn a phan oedd taliadau y cytunwyd i’w gohirio wedi’u setlo. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa’n cael ei monitro gan Lywodraeth Cymru (LlC).
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragwelid ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelid ar y Cyfrif Refeniw Tai.