Mater - penderfyniadau
Treasury Management Mid-year Review 2020/21 and Quarter 2 Update
02/03/2021 - Treasury Management Mid-year Review 2020/21 and Quarter 2 Update
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro (Cyfrifeg Dechnegol) yr adroddiad canol blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2020/21 i’w argymell i’r Cabinet, ynghyd â diweddariad am weithgareddau Chwarter 2 a gafwyd er gwybodaeth.
Ymhlith y pwyntiau allweddol oedd effaith y sefyllfa argyfwng, parhad cyfraddau llog isel a defnydd parhaus o fenthyca tymor byr. Fel rhan o’r diweddariad am Chwarter 2, nodwyd ein bod yn aros am ganlyniad ymgynghoriad am ddyfodol Bwrdd Benthyciadau Gweithiau Cyhoeddus (PWLB), yr oedd y Cyngor wedi gwneud sylwadau arno.
Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, disgrifiodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro effeithiolrwydd cyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn rheolaidd rhwng y timau yn ystod y pandemig. Rhoddodd wybodaeth am fenthyciadau di-log gan y Llywodraeth, a oedd yn amodol ar feini prawf a’r dull o ran benthyca oherwydd ansicrwydd o ran y sefyllfa bresennol.
O ran y portffolio buddsoddi, dywedwyd wrth y Cynghorydd Johnson fod buddsoddiadau gyda’r Swyddfa Rheoli Dyledion yn adlewyrchu’r dull gofalus sy’n cael ei ddilyn yn ystod y sefyllfa argyfwng a bod gwahaniaethau o ran cyfraddau llog ar gyfer benthyca tymor byr oherwydd amseru.
Wrth groesawu’r adroddiad, cymerodd y Cynghorydd Banks y cyfle i annog pob Aelod i fynychu un o’r ddwy sesiwn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys ym mis Rhagfyr.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Johnson a’r Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2020/21 a chadarnhau nad oes unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 15 Rhagfyr 2020.