Mater - penderfyniadau

Community Transformation Project Update

23/02/2021 - Community Transformation Project Update

Gwnaeth yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion gyflwyno’r Arweinydd Lles a Phartneriaeth a aeth â ni drwy’r adroddiad a oedd yn esbonio’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y newid i raglen y Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol, sy’n un o 4 yng Ngogledd Cymru. Nododd fod effaith sefyllfa’r argyfwng wedi bod yn sylweddol a bod gweithwyr ac adnoddau ariannol wedi cael eu harallgyfeirio er mwyn ymateb i’r gwaith ymateb cychwynnol yn yr argyfwng.

 

            Nododd y Cadeirydd ei phryderon ynghylch swydd sydd wedi bod yn wag ers diwedd mis Hydref. Dywedodd yr Arweinydd Lles a Phartneriaeth fod y swydd wedi ei rhewi ar hyn o bryd oherwydd gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan nodi nad oedd hi’n amser doeth i groesawu aelod newydd o staff pan y gallai’r swydd, o bosibl, ddod i ben ym mis Mawrth.

 

            Roedd y Cynghorydd Bateman yn falch o’r Gwasanaeth Cefnogi Seibiant i rai â Dementia. Dyma wasanaeth newydd lle bydd Gweithwyr Cefnogi yn treulio nosweithiau ac yn aros dros nos yng nghartrefi unigolion am hyd at 2 noson yn olynol gan fod eu hanghenion wedi gwaethygu, ac er mwyn peidio â gorfod symud y claf.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Arweinydd Lles a Phartneriaeth am ei gwaith ardderchog. Ychwanegodd fod y Rhaglen Drawsnewid wedi cael ei haddasu ar frys er mwyn cefnogi’r ymateb i sefyllfa’r argyfwng. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd Lles a Phartneriaeth fod rhywfaint o waith wedi cael ei wneud ar lefel ranbarthol drwy’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol a oedd yn ymwneud â chefnogi pobl h?n yn bennaf.  Prynwyd sawl ipad ac roedden nhw ar gael i bobl h?n er mwyn eu helpu gyda sesiynau ymgynghori rhithiol gydag Ymgynghorwyr mewn ysbytai, ac i’w helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a bod ar eu pen eu hunain. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio eiriolwyr digidol.

                       

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn sicrhau bod y meysydd allweddol sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid yn briodol ac y byddan nhw’n cefnogi anghenion lleol yn Sir y Fflint; a

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y bydd effaith y Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn llai gan fod llai o gyllid ar gael ar gyfer 2021/22 a bod y manylion ynghylch blaenoriaethu gweithgareddau yn 2021/22 yn cael eu trafod pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn.