Mater - penderfyniadau

Council Plan 2020/21 (EY &C)

07/06/2021 - Council Plan 2020/21

 Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio priodol y Pwyllgor.  Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd grynodeb byr o’r Cynllun, gyda chanolbwynt penodol ar:-

 

·         Cwricwlwm Cymru newydd;

·         Gwaith parhaus i godi safonau a chyflawniad i bobl ifanc;

·         Darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid;

·         Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura;

·         Prosiect Archifau;

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol; a

·         Strategaeth Cyfrwng Cymraeg

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol i amlinellu cynnwys y cynllun drafft a’r broses ar gyfer datblygu pellach. Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol wrth y Pwyllgor fod nifer o elfennau yn y cynllun wedi’u hadolygu. Rhoddodd wybodaeth am y gwaith partneriaeth ar draws portffolios a dywedodd y byddai hyn yn cael ei rannu gyda phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn cael eu hadborth. Yna byddai’r cynllun drafft terfynol gan gynnwys adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Cabinet a’r Cyngor. Ychwanegodd, o ran monitro’r Cynllun, y nod oedd gallu dangos effaith fel awdurdod mewn modd strategol, a bod y Cynllun yn uchelgeisiol ond yn realistig gan ystyried yr amgylchiadau presennol. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd y Prif Swyddog fod y ddogfen cais crynodeb ar gyfer y Prosiect Archifau yn gyfrinachol a thynnodd ei sylw at nifer o adroddiadau a oedd wedi’u cyflwyno i’r Cabinet ac a oedd ar gael i’w gweld.  

 

Rhoddodd Mr. David Hytch longyfarchiadau i’r awdurdod lleol am Gynllun y Cyngor uchelgeisiol a chymeradwyodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog. Rhoddodd sylwadau am elfen ‘Cyngor Gwyrdd’ y Cynllun a dywedodd fod 97% o ddolydd blodau gwyllt wedi’u colli’n genedlaethol. Dywedodd fod y Swyddog Bioamrywiaeth yn ymwybodol o ymgyrch genedlaethol i gynnal amrywiaeth fotanegol a gofynnol a fyddai cynnwys rheoli creadigol o ran ymylon ochr ffyrdd er mwyn cynyddu amrywiaeth fotanegol, yn yr ardal flaenoriaeth hon, yn ddefnyddiol o ran cynyddu uchelgeisiau’r Swyddog Bioamrywiaeth.

 

Croesawodd y Cadeirydd y ddogfen gadarnhaol ac awgrymodd fod Cynghorwyr yn cael eu hannog i amlygu rhannau o Gynllun y Cyngor yn eu newyddlenni lleol i breswylwyr Sir y Fflint.  Awgrymodd fod lles holl staff y Cyngor yn cael ei amlygu fel amcan, gyda nodau wedi’u gosod o ran beth hoffai’r Cyngor ei gyflawni. Rhoddodd sylwadau hefyd am yr heriau i gymunedau gwledig a dywedodd yr hoffai weld pwyslais cryfach ar sut roedd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r heriau roedd cymunedau gwledig yn eu hwynebu. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau lles staff a bod hon yn broses fewnol, tra roedd Cynllun y Cyngor yn ddogfen allanol i gyflwyno blaenoriaethau’r Cyngor i holl breswylwyr Sir y Fflint. Cytunodd Swyddogion i adrodd yn ôl o ran y sylwadau ac amlygu meysydd yng Nghynllun y Cyngor lle byddai blaenoriaethau’n cynorthwyo cymunedau gwledig.             

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones. 

              

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi themâu a ddatblygwyd o Gynllun y Cyngor 2021/22 cyn cymeradwyaeth gan y Cabinet.