Mater - penderfyniadau
Budget 2021/22 - Stage 1
16/12/2020 - Budget 2021/22 - Stage 1
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y pwysau costau ar y Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, a’r strategaeth ariannol hollgynhwysfawr.Gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu pwysau o ran costau a risgiau a rhoi cyngor ar unrhyw opsiynau effeithlonrwydd posibl i'w harchwilio. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i bob un o'r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er ystyriaeth ac y byddai adborth yn cael ei ddarparu i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol ar 12 Tachwedd ac yna i’r Cabinet a’r Cyngor Sir.
Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid gyflwyniad ar y cyd ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) a Chyllideb y Cyngor 2021/22 a oedd yn rhoi sylw i'r prif bwyntiau canlynol:
· rhagolygon ariannol 2021/22;
· y dyfodol – yr hyn a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror
· cyfansymiau cryno pwysau costau
· Pwysau costau penodol ar y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant
· Pwysau costau penodol ar y Portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r
Economi
· atebion – tri ateb rhannol a chymryd risgiau
· y sefyllfa genedlaethol a chyllido
· senarios ariannu posibl
· amserlen y gyllideb
· y gefnogaeth a'r heriau heddiw
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a fyddai’n bosibl gwneud unrhyw arbedion posibl drwy ddefnyddio plastigau wedi’u hailgylchu ar gyfer ail-wynebu ffyrdd, rhannu/hurio offer gardd ac ati. Gan ymateb i’r cwestiwn am blastig wedi’i ailgylchu eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod cynllun peilot wedi’i gynnal a bod gwaith yn symud ymlaen gyda Llywodraeth Cymru a chyflenwr lleol. Mewn perthynas â’r awgrym am hurio offer gardd ac ati allan, dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cyflwyno cais i Gronfa Economi Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio, trwsio neu ailwerthu/hurio'r fath offer a fyddai'n darparu mantais gymdeithasol i bobl sy'n profi caledi ariannol. Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau am storio deunyddiau wedi’u hailgylchu, SuDs a Threth y Cyngor.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi’r pwysau costau ar y Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, fel sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad
(b) Nad yw'r Pwyllgor yn argymell unrhyw feysydd arbed costau eraill i'w harchwilio ymhellach;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r strategaeth gyllidebol hollgynhwysfawr;
(d) Bod y Pwyllgor y ail-gadarnhau safiad y Cyngor ar y polisi trethant lleol; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o’r Llywodraethau, fel yr amlinellwyd yn y cyflwyniad a gafwyd.