Mater - penderfyniadau

Safeguarding Adults and Children’s Annual Report to include the “New Safeguarding Procedures”

23/02/2021 - Safeguarding Adults and Children’s Annual Report to include the “New Safeguarding Procedures”

Rhoddodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu gyflwyniad byr am yr adroddiad cyn trosglwyddo’r awenau i Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu a ddywedodd wrth yr Aelodau mai Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru, o ran Diogelu Oedolion a Phlant, i gymryd camau cyflym er mwyn symud at gyfarfodydd rhithiol pan ddaeth y cyfnod clo i rym. Yna rhoddodd adroddiad manylach am y canlynol:-

 

 

·         Effaith COVID 19 ac ymateb yr Uned Ddiogelu

·         Diogelu Oedolion dan amodau COVID 19

·         Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Newydd

·         Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

·         Diogelu Oedolion ac Oedolion sydd mewn Perygl

·         Diogelu Plant a’r Gofrestr Amddiffyn Plant

·         Nifer y Cynadleddau Achosion Diogelu Plant a gynhaliwyd

·         Plant sy'n Derbyn Gofal

·         Cysylltiadau â’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu oherwydd sefyllfa’r argyfwng yn ystod y cyfnodau ynysu.Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu y gwelwyd cynnydd bach o safbwynt diogelu oedolion yn neufis cyntaf y cyfnod clo ond na welwyd newid sylweddol dros y chwe mis diwethaf. Gyda phlant, y categori uchaf yn y 2 flynedd ddiwethaf o gofrestru oedd cam-drin emosiynol yn gysylltiedig â thrais domestig a’r categori uchaf yn y 12 mis diwethaf oedd esgeulustod. Mae angen gwell dealltwriaeth o’r newid a welwyd yma. Byddai’n ddiddorol gweld ai cam-drin emosiynol yw’r categori uchaf erbyn hyn, yn hytrach nag esgeulustod, pan gawn ni’r data ar gyfer y 6 mis diwethaf. Mae nifer o ardaloedd wedi nodi cynnydd mewn trais domestig ond nid yw hynny’n wir am Sir y Fflint.

 

   Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas ag Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 a darparwyd gwybodaeth ychwanegol; a

 

(b)       Bod yr aelodau yn nodi’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth.