Mater - penderfyniadau
Supporting the Social Work Workforce
23/02/2021 - Supporting the Social Work Workforce
Rhoddodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu grynodeb bras o’r adroddiad gan roi trosolwg o’r gwaith ychwanegol sy’n cael ei wneud i gefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso o fewn y Cyngor, a bod sefyllfa’r argyfwng wedi tarfu ar y ddau faes canlynol
- Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
- Datblygu ein Gweithwyr Cymdeithasol
Diolchodd y Cynghorydd Bateman i’r Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu am ei hymateb cyflym nid yn unig i’r cwestiynau blaenorol roedd hi wedi eu codi ond hefyd am yr wybodaeth fanwl roedd hi newydd ei chyflwyno.
Roedd y Cynghorydd Mackie hefyd yn falch o’r ffordd roedd pethau’n mynd, yn enwedig y ffordd mae Prifysgol Glynd?r wedi newid yr hyn roedden nhw’n ei wneud er mwyn cyd-fynd â’r Awdurdod, sy’n dangos perthynas dda.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies.
PENDERFYNWYD:
(a)
Bod aelodau’n cael
gwybod am effaith y pandemig COVID ar waith dysgu a datblygu ym
maes gwaith cymdeithasol;
(b)
Bod aelodau’n nodi
gwaith y Cyngor i gefnogi’r gweithwyr cymdeithasol newydd
gymhwyso presennol; a
(c) Bod aelodau’n cael gwybod am ein cynigion ar gyfer datblygu Gweithwyr Cymdeithasol yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer i fod yn Ymarferwyr Profiadol.