Mater - penderfyniadau

North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal

21/12/2020 - North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ystyried y dogfennau allweddol gofynnol i gyrraedd Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo. Roedd y dogfennau yn cael eu cyflwyno i’r holl bartneriaid i’w cymeradwyo i ffurfioli eu hymrwymiad cyfreithiol i Gytundeb y Fargen Derfynol.

 

Ers mabwysiadu Cytundeb Llywodraethu 1, roedd Cytundeb Llywodraethu 2 wedi ei ddatblygu i gynnwys cyd-fuddiannau a risgiau’n ogystal â threfniadau cydgyllido. Yn Sir y Fflint, roedd yr adroddiad wedi ei gefnogi gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn gynt yn yr wythnos yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau a gynhaliwyd yn flaenorol. Roedd y Cytundeb yn cynnwys darpariaethau ar swyddogaethau gweithrediaeth a swyddogaethau anweithredol, yr oedd angen cymryd penderfyniadau ar wahân arnynt gan y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 17 Tachwedd 2020. Byddai adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei adrodd i’r cyfarfodydd hynny.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y ddau ffurf o ymrwymiad ariannol ar gyfer y Cyngor oedd yn cynnwys cyfraniadau refeniw oedd eisoes wedi eu hadeiladu i’r gyllideb sylfaenol a goblygiadau refeniw cyfalaf benthyca i hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf. Byddai angen cyfraniadau blynyddol o rhwng £100,000 ac £140,000 gan Sir y Fflint ar gyfer yr olaf, er mwyn cael mynediad at £240 miliwn o gyfalaf gan y ddwy Lywodraeth i ariannu’r Fargen Dwf dros 15 mlynedd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn ddull gweithredu fforddiadwy ar gyfer y Cyngor yng nghyd-destun y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Roedd arweinyddiaeth yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r Cytundeb a phe byddai’n cael ei lofnodi erbyn 17 Rhagfyr, byddai’n golygu y gellid cael mynediad at gyfalaf yn y flwyddyn gyfredol.

 

Cymharodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarpariaethau y Cytundeb gyda rhai partneriaethau rhanbarthol cyfredol eraill. Rhoddodd drosolwg o’r model llywodraethu gan gynnwys darpariaeth i bob partner gadw rheolaeth dros y lefel o adnoddau roedd yn ei gyfrannu.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn fodlon gyda’r ystyriaethau ariannol y mae’n eu hystyried yn ddarbodus ar brosiect o’r maint hwn i gyflawni rhaglenni yn y blynyddoedd cynnar.  Gan ategu sylwadau’r Prif Weithredwr ar yr ymrwymiadau ariannol, dywedodd y byddai angen adeiladu’r cyfraniadau blynyddol ychwanegol i gyllideb 2021/22.

 

Talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’i ragflaenydd, y Cynghorydd Aaron Shotton, am eu holl waith ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Gan ganmol yr adroddiad, dywedodd y byddai mwy o eglurder yn y geiriad o gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r manteision. Gan siarad am gymhlethdod y Cytundeb, dywedodd y Prif Weithredwr bod amrywiaeth o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ac y byddai cyflwyniad fydd yn cael ei roi i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn cael ei gylchredeg. Ymatebodd i gwestiynau eraill yn amlygu ymrwymiad yw holl bartneriaid a’r broses o greu prosiectau newydd o fewn y Fargen Dwf. O ran cysylltedd digidol, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gylchredeg gwybodaeth ar y maes hwnnw o waith gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

 

Ar ran y Cynghorydd Richard Jones, ceisiodd y Cynghorydd Peers eglurder ar yr argymhellion yn yr adroddiad a dywedwyd wrtho y byddai adborth fydd yn cael ei ddarparu i’r Cabinet yn golygu y gellid gwneud argymhellion manwl i’r Cyngor Sir, lle byddai eglurhad llawn yn cael ei rannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y gallai Aelodau fod wedi cael gweithdy ym mis Hydref, yn hytrach na’r sesiynau briffio a drefnwyd. Roedd ganddo bryderon am y lefel o graffu ar bwnc mor bwysig ac fe holodd yngl?n â gwaredu tair o’r wyth rhaglen wreiddiol o fewn y cynllun busnes yn ymwneud â sgiliau, twf busnes, a chludiant.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod yr holl raglenni oedd yn bodoli eisoes wedi eu cynnwys mewn dull unol fel yr oedd y ddwy Lywodraeth yn ei ddyheu. Dywedodd fod gweithdai lleol a rhanbarthol wedi eu cynnal dros flynyddoedd blaenorol wedi bod yn boblogaidd ac wedi bod yn gyfle i Aelodau gymryd rhan a chraffu drwy gydol yr holl broses. Nid chafwyd unrhyw geisiadau am fwy o wybodaeth nac ymgysylltu yn sesiynau briffio diweddar yr Aelodau. Gallai methu llofnodi’r Cytundeb yn unol â’r amserlen ranbarthol roi’r prosiectau o fewn y Fargen Dwf mewn peryg. Byddai pwerau dirprwyedig yn ychwanegu hyblygrwydd i wneud unrhyw fân newidiadau heb unrhyw effaith sylweddol ar ysbryd y Cytundeb.

 

Gan ategu’r sylwadau am y gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Aaron Shotton, canmolodd y Cynghorydd Roberts gyfraniadau’r Prif Weithredwr fel arweinydd rhanbarthol y gwaith. Siaradodd am bwysigrwydd y Fargen Dwf a cheisiodd gefnogaeth Aelodau yn ysbryd gweithio trawsbleidiol rhanbarthol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Bateman adborth cadarnhaol ar y cyflwyniad a roddwyd yn flaenorol gan Gyfarwyddwr Rhaglen y Bwrdd Uchelgais Economaidd. O safbwynt cyfraniadau partneriaid, dywedwyd fod y symiau’n gymesur â maint y boblogaeth.

 

Mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd Heesom am yr amserlen a’r capasiti i Aelodau allu craffu ar y dogfennau mewn manylder. O ganlyniad, nododd yr argymhellion, ond teimlai na allai eu cymeradwyo.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol gyda’r Cyfarwyddwr Rhaglen yn darparu’r cyfle i herio.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr Aelodau fod y Fargen Dwf yn gyfle am gyllid ychwanegol sydd y tu hwnt i ymrwymiadau prosiectau cyfredol. Dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau mawr wedi eu gwneud i’r Cytundeb ers sesiynau briffio’r Aelodau, a groesawyd bryd hynny.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) feysydd allweddol o drefniadau llywodraethu fel yr ymrwymiad ar gyfer Adroddiad diweddaru chwarterol ar waith y Bwrdd Uchelgais Economaidd a darpariaeth i ganiatáu bod unrhyw benderfyniad am adnoddau ychwanegol gan y Cyngor gael ei wneud gan y Cabinet yn ddibynnol ar y broses Trosolwg a Chraffu arferol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Woolley, cydnabu’r Prif Weithredwr bwysigrwydd cyhoeddi manteision y Fargen Dwf a siaradodd am ymgysylltu sylweddol gyda busnesau ac Aelodau.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Thomas y Pwyllgor y byddai’r Fargen Dwf yn golygu buddsoddiad sylweddol i Ogledd Cymru. Cytunodd y gellid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth gyda’r cyhoedd ac y gellid cyhoeddi dolenni i’r rhaglenni ar newid hinsawdd a rheoli carbon ar y wefan.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai arwyddo’r Cytundeb yn darparu cydnabyddiaeth hanfodol i Ogledd Cymru yn ogystal â manteision yn yr hir dymor.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Johnson, ac fe gymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cabinet a’r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail i ymrwymo i Gytundeb y Fargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithrediaeth ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a fod y Cabinet yn benodol yn mabwysiadu dirprwyaethau a’r Cylch Gorchwyl yng ‘Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1’ fel y sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Bargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad fod y Cabinet yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r Llythyr Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cabinet i gymeradwyo’n ffurfiol ac argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost tybiannol o fenthyg sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a chraidd sefydledig a chyfraniadau atodol fel y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 2.5 – 2.7); a

 

 (e)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi fod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel bo’r angen i gwblhau’r cytundeb.