Mater - penderfyniadau

Children’s Transformation Project Update

14/12/2020 - Children’s Transformation Project Update

Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad ar gynnydd a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer prosiect i sicrhau newidiadau trawsnewidiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd fod Gogledd Cymru wedi sicrhau £3m o arian grant ar gyfer Rhaglen Drawsnewid ranbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol i blant. Gan weithio ar batrwm rhanbarthol, cyflwynwyd y rhaglen ar sail Ardal. Roedd prosiect Ardal y Dwyrain yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam. Eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r prosiect yn helpu rhieni ag anghenion iechyd meddwl isel/cymedrol; dod â staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gynnig asesiad dwys a chefnogaeth therapiwtaidd i bobl ifanc nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS ond eu bod yn dangos anghenion sylweddol ac angen cefnogaeth; a datblygu Cartref Gofal preswyl lleol i fodloni anghenion pobl ifanc tra roeddent yn ceisio aduno gyda’u teulu neu ddod o hyd i leoliad maethu/preswyl lleol mwy hirdymor.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr am y prif ystyriaethau yngl?n â’r ffrydiau gwaith uchod o fewn y Prosiect Gweddnewid Plant. Wrth gyfeirio at yr ail ffrwd waith, eglurodd yn ystod y pandemig, fod tîm Therapi Aml Systematig wedi ei benodi, hyfforddi a’i lansio. Roedd y Tîm yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol er mwyn meithrin gwydnwch teuluoedd rhwng 3 a 5 mis. Roedd y ffocws ar atal methiant y teulu a lleihau’r galw i roi plant yn y system ofal heb bod angen. Cyflwynodd Donna Watts, Rheolwr y tîm Therapi Aml Systematig a gofynnodd iddi roi crynodeb o’r Gwasanaeth.    

 

Eglurodd Rheolwr y Therapi Aml Systematig fod y Tîm wedi bodloni’r meini prawf er mwyn gweithredu’r Therapi o dan ofynion trwyddedu llym gan gynnwys cymhwysedd i ymarfer drwy hyfforddiant dwys.   Roedd y Therapi Aml Strategol yn fodel clinigol oedd yn gweithio gyda phob system o amgylch y plentyn gan gynnwys addysg, dylanwadau cymunedol, ac unrhyw oedolion/bobl eraill o bwys yn y teulu. Roedd y gwasanaeth yn becyn penodol o ofal oedd yn cynnig triniaeth yn y cartref 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  Yn ystod ei chyflwyniad rhoddodd y Rheolwr enghreifftiau o sut roedd y Therapi Aml Strategol wedi llwyddo i newid bywydau unigolion o ganlyniad i’r driniaeth a’r gefnogaeth a roddwyd.Yr Awdurdod oedd y cyntaf yng Nghymru i’w ddefnyddio.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â’r ffordd y gwneid atgyfeiriad at y Gwasanaeth Therapi Aml Strategol, eglurodd y Rheolwr fod pob atgyfeiriad yn gorfod dod drwy’r Gwasanaethau Plant, boed yn atgyfeiriad gan Gyngor Sir y Fflint neu gan Brifysgol Betsi Cadwaladr. Wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o’r gwasanaeth, roedd mwy o atgyfeiriadau’n dod. Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu, drosolwg byr o’r llwybr atgyfeirio a dywedodd fod pob atgyfeiriad a wneid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei archwilio gan banel i benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer pob achos er mwyn cael y budd mwyaf o’r gwasanaeth Therapi Aml Strategol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie i gefnogi’r gwasanaeth Therapi a llongyfarchodd Reolwr y Therapi a’r swyddogion am eu rheolaeth o’r prosiect. Wrth ymateb i bryderon a sylwadau gan y Cynghorydd Mackie yngl?n ag addysg, cadarnhaodd Rheolwr y Therapi Aml Strategol fod cynnwys ysgolion yn rhan o’r model ac y byddai unrhyw ymddygiad trafferthus yn yr ysgol yn cael ei adnabod.   Eglurodd Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod swyddogion o’r Gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi eu cynnwys ar y Gr?p Llywio er mwyn gwybod am bopeth oedd yn digwydd ym mywyd y plentyn.   

 

I grynhoi, adroddodd yr Uwch Reolwr ar y drydedd ffynhonnell waith yngl?n ag uchelgais a’r cynnydd o ran datblygu Cartref Gofal preswyl lleol i bobl ifanc. Eglurodd y gallai pobl ifanc aros am amser byr a chael asesiad Therapi Aml Strategol dwys a chefnogaeth er mwyn atal yr angen i’w rhoi mewn lleoliadau mewn sefyllfa o argyfwng. Cyfeiriodd y Cadeirydd at brosiect y Ffenics gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru ac awgrymodd y gellid gwneud cysylltiad posibl rhwng y ddau brosiect. Cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’n ymchwilio i hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Gladys Healey i gefnogi’r prosiectau a’r mentrau ac awgrymodd y dylid cael cyflwyniad gan y Gwasanaeth Therapi Aml Strategol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn y dyfodol. Rhoddodd yr Hwylusydd Addysg ac Ieuenctid wybod fod cyfarfod ar y cyd gydag Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i’w gynnal ar 17 Mehefin 2021 a dywedodd y byddai’n cynnwys eitem ar agenda’r Gwasanaeth Therapi Aml Strategol ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd David Wisinger.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith er mwyn mynd ati’n ddiogel i leihau nifer y plant sydd angen gofal drwy roi cymorth yn gynnar a chefnogaeth ddwys a phenodol i deuluoedd;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi sefydlu Cartref Gofal Preswyl i Blant yn yr awdurdod lleol fel rhan o ddull o ail gydbwyso darpariaeth gofal i blant, gan roi sylw i sicrhau amrediad fforddiadwy a digonol o leoliadau lleol o ansawdd uchel; a

 

 (c)      Bod adroddiad ar y prosiect Therapi Aml Systematig yn cael ei ystyried yn y cyfarfod ar y cyd gydag Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sydd i’w gynnal ar 17 Mehefin 2021.