Mater - penderfyniadau

Housing Rent Income

09/02/2021 - Housing Rent Income

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar gasglu rhent ac ôl-ddyledion rhent ar gyfer 2020/21. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod yr ôl-ddyledion rhent yn 2020/21, hyd at wythnos 34 (23/11/2020) yn £2.49 miliwn, o’i gymharu â £2.31 miliwn ar yr un pwynt yn 2019/20. Roedd y gwasanaeth Incwm Rhent yn parhau i gefnogi tenantiaid a sicrhau bod ymyrraeth a chyfathrebu rheolaidd yn cael eu cynnal i atal cymryd camau cyfreithiol pellach i sicrhau bod tenantiaid yn cwrdd â’u rhwymedigaethau talu.

 

            Roedd yr argyfwng Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu ar amser, fodd bynnag, mewn achosion lle na wnaeth tenantiaid ymgysylltu neu dalu, er yr holl gymorth a chefnogaeth a gynigiwyd, roedd y gwasanaeth nawr yn ail-weithredu’r broses o adennill rhent, yn cynnwys drwy’r llys pan fo angen, i sicrhau bod tenantiaid yn cadw at delerau eu cytundebau tenantiaeth.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-

 

·         Crynodeb o Ôl-ddyledion Rhent dros y degawd;

·         Crynodeb - sefyllfa derfynol Casgliadau Rhent 2019/20;

·         19/20 ac effeithiau 20/21;

·         Tenantiaid yn hawlio Credyd Cynhwysol;

·         Casglu Rhent: Sefyllfa ddiweddaraf 20/21 (hyd at wythnos 36);

·         Newid i lefelau ôl-ddyledion (mis Ebrill i fis Tachwedd);

·         Ôl-ddyledion Rhent – yr heriau lleol a chenedlaethol;

·         % Ôl-ddyledion Tenantiaid Presennol yn ôl ALl (dienw);

·         Cynllunio Adferiad ar gyfer 20/21 a 21/22

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet y buddsoddiad mewn meddalwedd "Rent Sense" Mobysoft a oedd wedi helpu swyddogion i nodi tenantiaid yn gynnar i ddarparu cefnogaeth a chymorth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a fyddai modd darparu dadansoddiad o lefelau ôl-ddyledion rhent tenantiaid a oedd yn fwy na £5,000, ynghyd â gwybodaeth am y ffigyrau uchaf o ran ôl-ddyledion rhent. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu’n gyfrinachol i Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casglu rhent yn 2020/21, fel yr oedd yn yr adroddiad.