Mater - penderfyniadau

Recovery Strategy Update

09/02/2021 - Recovery Strategy Update

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am Gofrestr Risg y Portffolio Corfforaethol a mesurau lliniaru yn rhan o gynllunio adferiad.  Gan fod llawer o’r risgiau tymor byr wedi dod i ben, roedd y ffocws ar y risgiau ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir gyda nifer o risgiau ariannol yn debygol o aros yn agored am beth amser.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol.

 

Talodd y Cynghorydd Shotton deyrnged i’r gweithlu am eu gwaith yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r diweddariad nesaf ar y Strategaeth Adfer yn cael ei adrodd ym mis Chwefror, ac y byddai unrhyw fater sylweddol yn ymwneud â Chyllid yn rhan o’r adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw ym mis Ionawr.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar faterion presennol megis ôl-ddyledion rhent, lefelau casglu Treth y Cyngor a chludiant ysgol a fyddai’n effeithio’r gyllideb.  Dywedodd y Prif Weithredwr, yn ogystal â’r eitem ar y rhaglen hon, byddai adroddiad y gyllideb ym mis Ionawr yn adlewyrchu unrhyw newid i amcanestyniadau cyn cyfarfod y Cyngor Sir ym mis Chwefror.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Shotton a Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol.