Mater - penderfyniadau
Recovery Strategy Update
21/12/2020 - Recovery Strategy Update
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adferiad.
Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y mis diwethaf gan fod nifer o’r risgiau yn rai hir dymor. Fel yr awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones yn y cyfarfod blaenorol, roedd y dull o gyflwyno patrymau risg wedi ei newid er eglurder.
O safbwynt yr amcanion adfer lefel uchel, canmolodd y Cynghorydd Banks y gweithlu am waith a wnaed yn ystod cyfnod yr argyfwng.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cofrestr risg a ddiweddarwyd a'r camau lliniaru risgiau o fewn y portffolios corfforaethol.