Mater - penderfyniadau

Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

16/12/2020 - Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad  yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 14 amcan adfer y portffolio.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad tynnodd y Prif Swyddog sylw at y cynnydd a wnaed ar yr amcanion adfer o safbwynt ailagor cyrchfannau - Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas, Waun y Llyn; cydymffurfiad ag amserlen y Cynllun Datblygu Lleol Newydd; cefnogaeth ar gyfer marchnadoedd lleol a chanolfannau trefi; ymgymryd ag arolygon clefyd coed ynn ac adfer y swyddogaeth Rheoli Datblygu. Adroddodd y Prif Swyddog ar y gofrestr risg (f7) a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau'r Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â'r amcanion adfer, dywedodd y Prif Weithredwr fod parhad gwasanaethau a pherfformiad wedi bod yn uchel o gymharu ag awdurdodau eraill yn ystod yr argyfwng COVID-19.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Cindy Hinds ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Patrick Heesom rhag pleidleisio ar yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed ar gynllunio adfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a

 

(b)       Nodi cynnwys cofrestr risg ddiweddaredig y portffolio a chamau lliniaru.