Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
26/11/2020 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad am amseriad y broses o ymgynghori ar y gyllideb, gan ddechrau gyda chyfarfod y pwyllgor ar 2 Tachwedd.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.