Mater - penderfyniadau

Schedule of Remuneration for 2020/21

21/12/2020 - Schedule of Remuneration for 2020/21

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod i ddiweddaru’r Atodlen drwy ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r aelod cyfetholedig a enwebwyd gan y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl i’r apwyntiadau hynny gael eu cadarnhau.

 

Fel y cytunwyd yng nghyfarfod diweddaraf Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, byddai’r Cyngor yn cydymffurfio â Phenderfyniadau 9 a 10 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol trwy gynnig gliniaduron i Aelodau ynghyd â lwfans band eang neu ddyfais ‘MiFi’.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Phillips a ddiolchodd i’r Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2020/21 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei awdurdod i ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar iddynt gael eu penodi a’r aelod cyfetholedig ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl iddynt gael eu henwebu.