Mater - penderfyniadau

Renewal of Public Space Protection Orders

20/01/2021 - Renewal of Public Space Protection Orders

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymyrraeth i atal unigolion, neu grwpiau, rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.  

 

            Byddai’r Gorchymyn yn dod i ben ar 19 Hydref 2020. Roedd y Cabinet wedi dechrau ymgynghoriad ar 14 Mehefin 2020 ac roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion am broses a chanlyniad yr ymgynghoriad.

 

            Gallai cynghorau wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar ôl ymgynghori â’r Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a chynrychiolwyr Cymuned priodol. Gallent gael eu gorfodi gan swyddogion y Cyngor, Swyddogion yr Heddlu neu Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol yr Heddlu.

 

            O dan ddarpariaethau’r Ddeddf, roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ar gyfer Alcohol yn newid yn awtomatig i Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Roedd y gorchymyn hwn yn rhoi p?er i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o’r cyhoedd ildio alcohol os oeddent yn credu bod aelod o’r cyhoedd yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus. Nid oedd hyn yn waharddiad alcohol llwyr mewn ardal gyhoeddus, ac nid oedd hyn yn berthnasol i eiddo trwyddedig, ond yn annog yfed yn gall.

 

            Ers gweithredu’r Gorchymyn rheoli c?n, roedd dros 1,100 o gerddwyr c?n wedi derbyn gwybodaeth a chyngor am waharddiadau’r Gorchymyn. Roedd cyfanswm o 3 Rhybudd Cosb Benodedig wedi’u rhoi am faw c?n a 45 am i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd y Cyngor wedi defnyddio dull cyhoeddus ac amlwg iawn er mwyn atal y problemau ac roedd swyddogion gorfodi wedi siarad â cherddwyr c?n yn ystod eu patrôl er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus.  Gan fod swyddogion mewn iwnifform, roedd yn llai tebygol i gerddwyr c?n beidio â chydymffurfio â’r rheolau lleol, a dylid nodi nad nifer uchel o Rybuddion Cosb Benodedig oedd yr unig fesur o’r Gorchmynion a dylid hefyd ystyried glanweithdra cyffredinol y sir ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o broses Rhybudd Cosb Benodedig.

 

            Derbyniwyd pedwar o sylwadau yn dilyn cau’r ymgynghoriad. Roedd dau sylw yn ymwneud â gwahardd c?n ar dir ysgol mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Elfed Bwcle, gyda chais i gerdded c?n ar hyd y llwybrau sy’n croesi tir yr ysgol. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Pennaeth, argymhellwyd na ddylid ystyried y sylw ymhellach.

 

            Roedd y trydydd sylw yn ymwneud â Gerddi Ornamental yn yr Wyddgrug, gyda chais bod yr ardal yn cael ei chynnwys yn y categori ‘gwahardd c?n’. Ar hyn o bryd nid oedd y gerddi wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn, felly ni argymhellwyd y dylid cynnwys yr ardal hon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai adolygiad o’r holl erddi er mwyn asesu dull rheoli c?n priodol i weddu i anghenion y trigolion.

           

            Roedd y pedwerydd sylw yn ymwneud â Gorchymyn rheoli alcohol gan gwestiynu gorfodi’r Gorchymyn. Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod hyn yngl?n â chael Gorchymyn yn ei le, fel y gallai gael ei orfodi oes oedd angen.

 

            Gwnaed sylwadau pellach gan Glwb Pysgota Cei Connah, yn amlinellu’r problemau roedd y clwb wedi’u hwynebu gyda ch?n yn nofio yn y llynnoedd heb reolaeth. Roedd gwaith yn cael ei wneud gyda swyddogion Gwasanaethau Stryd, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad i godi ffens fel ffin i greu parth gwahardd c?n.  

 

Byddai adolygiad o’r holl arwyddion yn cael ei gynnal a byddai arwyddion metel yn cael eu gosod, a’r safleoedd mwyaf dadleuol yn eu derbyn yn gyntaf. 

 

            Croesawai’r Cynghorydd Bithell y Gorchmynion, gan ddweud y byddai’n cynorthwyo i ddelio â phobl sy’n ymgynnull mewn ardaloedd problemus o ran yfed alcohol, bod yn afreolus ac achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r pwynt lle’r oedd pobl eraill yn osgoi’r ardaloedd hyn. Roedd y mesurau a gyflwynwyd nifer o flynyddoedd yn ôl wedi helpu i fynd i’r afael â’r problemau hynny ac wrth adnewyddu’r Gorchmynion, byddai’n galluogi parhau i orfodi’r Gorchmynion.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr wythnos flaenorol lle gafodd dderbyniad da. Pwysleisiodd nad oedd yr adroddiad yn ceisio ymestyn pwerau’r gorchymyn, ond yn hytrach ei adnewyddu.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r estyniad i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoli c?n gyda chyfyngiadau presennol yn unig wedi’u cynnwys;

 

 (b)      Cymeradwyo’r estyniad i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoli alcohol; a

 

 (c)       Cyflawni adolygiad o’r holl arwyddion ymhob safle sy’n destun trefniadau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus.