Mater - penderfyniadau

Office of the Public Guardian Report

20/01/2021 - Office of the Public Guardian Report

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn rhoi manylion o gynnwys yr Ymweliad Sicrwydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gyflawnwyd ym mis Ionawr 2020.

 

            Roedd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio Ymweliadau Sicrwydd fel ffordd o oruchwylio a chefnogi dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus a Phroffesiynol. Mae Ymweliadau Sicrwydd yn edrych ar reoli a gweinyddu llwyth achosion dirprwyaeth cleientiaid penodol.

 

            Eleni, fe wnaeth ymweliad sicrwydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus adolygu saith o gleientiaid dirprwyaeth y Cyngor a chafodd perfformiad ei fesur yn erbyn:

 

  • Diogelu cyllid ac asedau’r cleientiaid;
  • Dod i ddeall y cleient i wneud penderfyniadau am beth sydd orau iddynt;
  • Cynnal prosesau a threfniadau swyddfa mewnol effeithiol; a
  • Meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i ymgymryd â dyletswyddau dirprwy.

 

Daeth yr ymweliad i’r casgliad bod y Cyngor wedi bodloni’r holl safonau a nodwyd bod y swyddogion dirprwyaeth yn gweithio’n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn cael eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain gymaint â phosib’. Nodwyd hefyd o’r achosion a adolygwyd fod gan y swyddogion dirprwyaeth ddealltwriaeth dda o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’i phum egwyddor statudol.

 

Talodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) deyrnged i’r tîm bychan o dri a dderbyniodd adolygiad cadarnhaol iawn o waith y Swyddogion Dirprwyaeth o fewn Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ychwanegodd, mewn ymateb i asesiad a sylwadau’r Ymwelydd ar ddiffyg adnoddau, fod y gwasanaeth yn y broses o benodi Swyddog Dirprwyaeth ychwanegol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Banks y tîm am y gwaith ardderchog a gyflawnwyd.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi ac yn derbyn sicrwydd o gynnwys llythyr adborth yr Ymweliad Sicrwydd ac asesiad o berfformiad yr awdurdod; a

 

 (b)      Nodi’r Crynodeb Cyffredinol o’r Ymweliad Sicrwydd ac ymateb y Cyngor.