Mater - penderfyniadau

Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

25/11/2020 - Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.  Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr Ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol

·         Amcanion Adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau Adferiad

·         Adferiad Cymunedol

·         Cynllun a Pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd

 

Aeth y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drwy'r rhan o'r adroddiad sy'n ymdrin ag Adferiad Cymunedol, ac roedd wedi ei rannu yn ddau is-gr?p Economi a Phobl Ddiamddiffyn a Thlodi.  Rhoddodd gefndir pellach yngl?n â’r gr?p Adferiad Cymunedol Is-ranbarthol, sydd yn fenter Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam.  Roedd pedair thema adferiad wedi eu nodi er mwyn gweithredu arnynt a dywedodd fod Arweiniad ar y Cyd o ran ffrwd waith yr Amgylchedd a Lleihau Carbon. Rhoddodd ddwy enghraifft o’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig er mwyn helpu’r Amgylchedd; Llefydd Gwyrdd er mwyn gwella ansawdd, defnydd o ddarpariaeth, hygyrchedd er mwyn hyrwyddo llefydd gwyrdd, ac yn ail Lleihau Carbon er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ar lefel leol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Gynllun y Cyngor a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol ond oherwydd y tarfu a fu yn yr argyfwng, a gychwynnodd ganol Mawrth, ni chafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill.  Eglurodd fod y Cabinet wedi tynnu ohono ac wedi diweddaru pethau allweddol oedd yn hanfodol i adferiad rhwng r?an a’r gwanwyn nesaf, pan fyddai’r Cyngor a’i Wasanaethau, gobeithio, yn gallu cael eu hadsefydlu oherwydd y tarfu mawr, a chyflwynodd Gynllun drafft y Cyngor wedi ei atodi i’r adroddiad.

 

Hefyd ynghlwm roedd fersiwn wedi ei diweddaru o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â’r ddau bortffolio yn dangos ble roedd rhaid gwneud newidiadau i uchelgais a thargedu oherwydd y tarfu gan yr argyfwng neu oherwydd bod peth o’r data bellach yn amherthnasol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) beth oedd ffurf yr adroddiad oedd yn seiliedig ar Adfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn unig, ynghyd â 4 atodiad ynghlwm.  Cyfeiriodd at yr 14 amcan adferiad a rhestrwyd, oedd wedi eu gosod ym mis Gorffennaf 2020 a’u bod eisoes wedi mynd i’r afael â rhai ohonynt.

 

Adroddodd fod mwyafswm y portffolio heb ei ddynodi’n wasanaethau hanfodol, er eu bod yn dal i weithio, ac eithrio Safonau Masnach, Trwyddedu, Swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogaethau Diogelwch Bwyd yn ogystal ag Iechyd a Diogelwch, oedd yn cynorthwyo gyda sefydlu model Cyfarpar Diogelu Personol a phob un ohonynt yn gorfod parhau.

 

Nododd  risgiau:-

·         20 risg agored dros Reoli Portffolio, Gweithlu, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau; Gwasanaeth Portffolio a Pherfformiad.

·         Risgiau Adferiad penodol wedi eu dangos fel *

·         Nifer y risgiau coch wedi lleihau o 20% ers mis Mehefin

·         40% o risgiau bellach yn gostwng, o’i gymharu â 25% ym mis Mehefin

 

a chanolbwyntio ar 3 ohonynt:-

 

Gweithlu - PE07 - Roedd yr effaith ar gyflwyno gwasanaeth oherwydd gwydnwch staff a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn gostwng oherwydd adleoli staff, recriwtio allanol ac ymgysylltu ag ymgynghorwyr gan egluro fod mis Medi yn fis adfer yn y maes hwnnw.

 

Rheoliadau Allanol - PE13 - Enghraifft arall o ostwng risg oedd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cytundeb darparu diwygiedig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.

 

PE-14 - Cynt roedd yn gostwng ond bellach mae wedi sefydlogi ar oren oherwydd recriwtio dau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd dros dro i gynorthwyo gyda’r rhaglenni archwilio a gynlluniwyd a’r rhai adweithiol, gan orfodi cyfyngiadau lleol a chenedlaethol, gweithgarwch rheoleiddio a gwaith Profi, Olrhain a Diogelu yn ymwneud â Covid 19 hefyd.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddwyd eu bod mewn gwell safle na blwyddyn yn ôl er mwyn gwybod beth oedd effaith Clefyd (Chalara) Coed Ynn.Yn ystod y cyfnod clo, gan fod y ffyrdd yn dawel, roeddent wedi llwyddo i fynd allan i wneud gwaith arolwg ac mae’r adroddiadau cyntaf yn dangos nad oedd pethau wedi gwaethygu mor gyflym ac yr oeddent wedi feddwl i ddechrau, ond roedd y gwaith arolwg cychwynnol yn dangos ardaloedd helaeth o Glefyd (Chalara) Coed Ynn yn tyfu’n agos at rai priffyrdd e.e. A5104 yn arwain i Gorwen gyda Choed Ynn sylweddol yn dangos arwyddion o’r clefyd. Roedd cymhlethdod gan mai dim ond 5% oedd o fewn perchnogaeth tir Sir a byddai’n rhaid dod o hyd i’r perchnogion tir er mwyn rhoi gwybod iddynt fod coed ynn heintus ar eu tir. Gan fod y gwaith arolwg wedi ei wneud erbyn hyn, mae ganddynt well syniad o lawer am leoliad y coed, a’u cyflwr fel sail i gynllunio yn y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Chris Dolphin eisiau eglurder yngl?n â chyfnodau clo yn y dyfodol gan holi a fyddai Swyddogion yn mynd allan ar eu pen eu hunain i weld safleoedd, a pheidio â siarad â phobl o angenrheidrwydd.  Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi), cyn gwneud unrhyw ymweliad safle y byddai angen i Swyddogion gynnal asesiad risg, sy’n parhau i fod yn ofynnol. Dylid gofyn yn gyntaf a ydyw ymweliad yn hanfodol neu a oes modd casglu'r wybodaeth mewn rhyw ffordd arall. Os mai ‘na’ yw’r ateb, yna ni fyddai’r Swyddog yn cynnal ymweliad safle. Drwy gydol y cyfnod clo roedd dau aelod o staff o fewn y Gwasanaeth Rheoli Datblygiad wedi eu dynodi fel staff hanfodol a phe codai achosion gwirioneddol bwysig, yna cynhelid ymweliadau safle yn ddiogel ac yna dilyn hynny gyda chamau gorfodi mewn sawl achos. Drwy gydol y cyfnod clo, dau chwarter cyntaf y flwyddyn hon, rhoddodd Sir y Fflint fwy o hysbysiadau am gamau gorfodi na’r llynedd oherwydd ymweliadau brysbennu. Mewn un achos penodol comisiynwyd ffilmio achos gyda drôn, ond ni fyddai hynny wedi digwydd o dan amgylchiadau arferol. Ychwanegodd hefyd fod ymweliadau Rheoli adeiladu wedi digwydd drwy fideo gynadledda.

 

Cynigwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cytuno ar y set llawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

 (b)      Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei hail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt iddi.