Mater - penderfyniadau

Recovery Strategy

19/01/2021 - Recovery Strategy

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.  Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr Ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol

·         Amcanion Adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau Adferiad

·         Adferiad Cymunedol

·         Cynllun a Pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Risgiau Portffolio Addysg ac Ieuenctid

·         Risgiau presennol

·         Risgiau i’r Adferiad

·         Llywodraethu/Cyfreithiol

·         Gweithlu

 

Fe awgrymodd y Prif Weithredwr bod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Rhoddodd y Prif Swyddog ac Uwch Reolwyr drosolwg o’r blaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad a gafodd eu hargymell i’w cynnwys yn y Strategaeth Adferiad. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog ac Uwch Swyddogion am eu sylwadau a chanmolodd y modd y mae’r awdurdod wedi ymateb yn ystod y sefyllfa o argyfwng. Fe soniodd am y cyngor wedi’i dargedu am ddiogelu a roddwyd i benaethiaid gan alluogi iddynt gynnal cyswllt a pherthynas gyda theuluoedd tra bod yr ysgolion ar gau a sicrhau bod atgyfeiriadau yn parhau.  Dywedodd y byddai angen parhau i fonitro’r risg o ran absenoldeb gweithlu er mwyn sicrhau’r effaith lleiaf posib ar ddarparu’r gwasanaeth. Siaradodd nifer o aelodau’r Pwyllgor o blaid sylwadau’r Cynghorydd Mackie.

 

            Wrth siarad i gefnogi sylwadau Cynghorydd Mackie, cymeradwyodd David Hytch ymdrechion yr awdurdod. Fe soniodd am y risg yn ymwneud ag ysgolion uwchradd o beidio bod yn ariannol hyfyw oherwydd cyllid sylfaenol annigonol a gofynnodd a oeddynt yn edrych eto ar y fformiwla rhannu. Er ei fod yn cefnogi hyn, nid oedd yn teimlo y byddai hyn yn cynorthwyo ysgolion yn ddigonol os oedd y gyllideb cychwynnol yn parhau’n isel. Gofynnodd hefyd a fyddai’r dyfarniad cyflog i athrawon yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a mynegodd bryder am yr effaith ar gyllidebau ysgolion os nad oedd yn dod gan y Llywodraeth.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg bod LlC wedi ymrwymo i ariannu rhwng 2-2.5% o ddyfarniad cyflog athrawon. Roedd cyfanswm y cynnydd gyfystyr â 3.1% o gyllid ychwanegol, felly byddai’n rhaid i’r awdurdod ariannu’r gwahaniaeth. Roedd yna bryder yngl?n â chyllid ar gyfer effaith llawn 3.1% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 os na fyddai’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.   

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod dyfarniad cyflog ‘Llyfr Gwyrdd’ y rhai nad ydynt yn athrawon wedi cael ei gynnwys ac roedd yna ddarpariaeth o fewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer y swm ychwanegol ar gyfer eleni ar ôl cyllidebu 2%, a daeth i 2.75% oedd tua £800,000 mewn cyllid ychwanegol. Gan edrych ar y ffigurau hyn, efallai y bydd yna gyfran o risg yng nghynnydd yr athrawon sy’n weddill a fyddai’n gorfod cael ei rannu gydag ysgolion.

 

            Fe soniodd y Cadeirydd am gostau ychwanegol i ysgolion yn sgil y sefyllfa o argyfwng a gofyn a oedd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i fodloni eu hanghenion. Fe soniodd y Prif Swyddog am y ffrydiau ariannol sydd ar gael i ysgolion i hawlio ar gyfer eitemau penodol o wariant penodol i gefnogi eu hymateb i’r sefyllfa argyfyngus. Fe eglurodd hefyd bod cyllid ychwanegol wedi cael ei ddarparu ar gyfer iechyd a lles emosiynol er mwyn cynyddu capasiti cwnsela a oedd yn allweddol er mwyn i ddysgwyr ail ymgysylltu mewn addysg yn llwyddiannus. Fe eglurodd y Prif Weithredwr beth oedd y broses i wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a’r heriau i gymhwyster. Dywedodd bod yr awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn cyflwyno ceisiadau am gyllid a gafodd eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. 

                       

            Gan ymateb i gwestiwn yngl?n ag achosion positif o Coronafeirws mewn ysgolion, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod llai na 10 o achosion wedi’u cofnodi, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o drosglwyddiad yn yr ysgolion. Fe amlinellodd y Prif Swyddog beth oedd y gefnogaeth a roddir i ysgolion pan fydd disgybl yn cael prawf positif, ac eglurodd bod yr arfer orau yn cael ei rannu rhwng ysgolion.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey pa gefnogaeth oedd ar waith i blant oedd yn yr ysbyty a sut oedd gofalwyr ifanc sydd yn gofalu am eu rhieni yn cael eu cefnogi. Fe eglurodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) y byddai plentyn yn yr ysbyty yn cael cynnig addysg oedd yn cael ei ddarparu trwy system yr ysbyty ond yn cael ei ariannu gan yr awdurdod. Roedd y ddarpariaeth addysg oedd ei angen yn cael ei addasu i anghenion pob plentyn unigol gydag addysg yn y cartref yn cael ei ddarparu i blant oedd yn gwella adref. Fe eglurodd y Prif Swyddog bod cefnogaeth i ofalwyr ifanc yn cael ei ddarparu trwy’r Gwasanaeth Ieuenctid Integredig ac fe soniodd am y cynllun cerdyn lle gall gofalwyr ifanc adael i athrawon ac ysgolion wybod yn dawel bach os oeddynt yn cael trafferth ymdopi. Mae ysgolion wedi bod ystyriol o hyd ac ar ddechrau’r argyfwng, darparwyd adnoddau i gefnogi gofalwyr ifanc yn ystod y cyfnod yma.

 

            Canmolodd y Cadeirydd y gefnogaeth a roddwyd i ofalwyr ifanc trwy’r gwasanaethau cymdeithasol, ond gofynnodd a ddylai’r risg i barhau i’w cefnogi gael ei gynnwys ym mhortffolio Addysg ac Ieuenctid a chofrestri risg gwasanaethau cymdeithasol.  Cytunodd y Prif Swyddog i ystyried hyn gyda’r Uwch Dîm Rheoli er mwyn asesu a oedd hyn yn risg y dylid ei gynnwys ar ein cofrestr risg neu a oedd hyn eisoes yn cael ei gofnodi trwy fusnes y portffolios fel arfer.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn yngl?n â’r nifer o ddarparwyr gofal plant, fe eglurodd y Prif Swyddog bod hyn wedi cael ei ystyried yn ofalus er mwyn sefydlu a fyddai hyn yn achosi risg sylweddol, ond dywedodd bod LlC wedi darparu cyllid drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws i ddarparu gofal plant brys i blant o dan 4 oed, ac roedd nifer o grwpiau chwarae a meithrinfeydd wedi manteisio ar hyn. Wrth i gyllid ychwanegol ddod i ben, roedd Llywodraeth Cymru wedi ailgyflwyno cynlluniau megis Cynnig Cyfle Cynnar ar gyfer Addysg Gynnar a Chynnig 30 awr o Ofal Plant y bu modd i’r busnesau hyn fanteisio arnynt.  Mae’r Tîm Gofal Plant wedi bod yn monitro hyn er mwyn sefydlu a fu yna effaith sylweddol gan fod rhai busnesau wedi methu ail-agor. Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr (Systemau Gwella Ysgolion) bod hyn yn parhau i gael ei adolygu, ac o achos y strategaethau a chefnogaeth sydd eisoes ar waith gyda darparwyr, mae hyn wedi galluogi iddynt fod mewn sefyllfa llawer cryfach.

 

            Mynegodd y Cynghorydd David Williams bryderon am daliadau uniongyrchol a cheisiodd sicrwydd eu bod yn cyrraedd y plant mwyaf diamddiffyn yn y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog bod LlC wedi ymateb yn gyflym i sicrhau nad yw’r teuluoedd sydd wedi derbyn prydau ysgol yn cael eu heffeithio’n fawr yn ystod y cyfnod clo, ac yn parhau i dderbyn y gefnogaeth honno. Cynhaliwyd trafodaeth gyda LlC i sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn parhau nes i’r ysgolion agor yn llawn ar 14 Medi. Mae’r tîm Refeniw a Budd-daliadau wedi rhestru teuluoedd sydd â hawl i’r gefnogaeth yma trwy geisiadau am fudd-daliadau ac mae wedi galluogi taliadau yn syth i gyfrifon banc y teuluoedd hynny.

 

            Canmolodd Arweinydd y Cyngor Llywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i deuluoedd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’i blaenoriaeth i barhau i gefnogi dysgwyr diamddiffyn. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith faint o ddysgwyr oedd wedi cael anawsterau yn ymgysylltu neu’n gallu cael gafael ar ddysgu o bell. Dywedodd y Prif Swyddog y cynhaliwyd gwaith ar ddechrau’r cyfnod o argyfwng er mwyn adnabod y dysgwyr hynny nad oedd â mynediad at declynnau digidol. Cafodd adnoddau o Brosiect Isadeiledd Hwb eu hailddefnyddio i’r dysgwyr hynny a darparwyd dyfeisiau MiFi gan alluogi iddynt gael mynediad i ddysgu ar-lein. Fe eglurodd yr Uwch Reolwr (Systemau Gwella Ysgolion) bod GwE yn cefnogi ysgolion i sicrhau bod ganddynt ddeunyddiau ac adnoddau priodol i gefnogi dysgwyr ar gyfer unrhyw sefyllfa pan fod angen iddynt weithio o adref.  Roedd gwaith ar gydnerthedd a chefnogaeth i ysgolion llai a rhannu adnoddau hefyd yn mynd rhagddo. 

 

Diolchodd y Prif Swyddog i’r Uwch Dîm Rheoli sydd wedi gweithio’n arbennig o galed i gefnogi ysgolion a lleoliadau gofal plant drwy gydol yr amser anodd yma. Mynegodd ei diolch hefyd i’r ysgolion gan egluro’r gwaith y mae’r Penaethiaid wedi’i wneud i gefnogi disgyblion, i barhau i gyflwyno’r cwricwlwm, ac fe soniodd am eu brwdfrydedd o gael dysgwyr nôl yn yr ystafell ddosbarth.  Roedd yr Arweinydd hefyd yn dymuno diolch i bawb a fu’n cefnogi dysgwyr yn ystod y sefyllfa o argyfwng, a dywedodd bod 23,000 o blant wedi dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn y Sir dros y 3 wythnos diwethaf, gyda chyfradd presenoldeb o 86%.   Diolchodd y Prif Swyddog am ei harweinyddiaeth a’i hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd a heriol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gynnig i gefnogi’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ac awgrymodd argymhelliad ychwanegol – bod y Pwyllgor yn canmol y tîm portffolio i ddelio â’r ymateb i argyfwng a’i waith tuag at flaenoriaethau yn y dyfodol sy’n cynnwys pobl ifanc sydd yn ddigartref a thlodi plant. Cafodd yr argymhelliad hwn, ynghyd â’r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’u heilio gan David Hytch.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn canmol y tîm portffolio i ddelio â’r ymateb i argyfwng a’i waith tuag at flaenoriaethau yn y dyfodol sy’n cynnwys pobl ifanc sydd yn ddigartref a thlodi plant;

 

(b)          Cytuno ar y set lawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

(c)          Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei hail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt iddi.