Mater - penderfyniadau
Terms of Reference of the Committee
17/11/2020 - Terms of Reference of the Committee
Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymuned ag Addysg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn yn cynnwys cael gwared ar eitemau adfywio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd ac Adfywio ac ychwanegu’r eitemau canlynol:
- Ymgynghoriaeth Eiddo a Dylunio
- Prisio ac Ystadau
- Gwasanaethau Cyfleusterau
- Asedau Cymunedol
- Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol
- NEWydd
PENDERFYNWYD:
Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.