Mater - penderfyniadau

Renewal of Public Space Protection Orders

21/01/2021 - Renewal of Public Space Protection Orders

Rhoddwyd trosolwg cryno gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a’r Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ar Reoli C?n a Rheoli Alcohol gan bwysleisio os na fyddai’r Gorchmynion yn cael eu cyflwyno y byddai'n golygu na fyddai unrhyw orfodi yn digwydd. Yna rhoddwyd cyflwyniadau ar yr adroddiad gan y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno PSPOs a gynlluniwyd i atal unigolion neu grwpiau rhag cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Cawsant eu cyflwyno am y tro cyntaf yn Sir y Fflint ym mis Hydref 2017 ac roedd angen ei adnewyddu ar ôl 3 blynedd drwy'r un broses ymgynghori.

 

Mae’r PSPO Rheoli C?n cyfredol yn gorchymyn fod perchnogion c?n yn:

 

1.    Gwaredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint

2.    Mynd â modd o godi gwastraff eu c?n i fyny gyda nhw

3.    Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt pan fo’r ci yn achosi niwsans

4.    Gwahardd c?n rhag mynd ar ardaloedd chwarae caeau chwaraeon cyhoeddus wedi eu marcio, ardaloedd hamdden blaenorol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis, ardaloedd chwarae gydag offer i blant gyda ffensys o’u cwmpas a phob ardal ar diroedd ysgolion.

5.    Cadw eu c?n ar dennyn mewn mynwentydd

 

Yn 2009, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Orchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer Rheoli Alcohol a gafodd ei drosglwyddo’n awtomatig i'r PSPO Rheoli Alcohol a dyna pam fod angen ei adnewyddu.  Nid oedd y PSPO ar Reoli Alcohol yn waharddiad llwyr ar yfed Alcohol ond cyflawnwyd trosedd pan na chydymffurfiwyd â chais gan Heddlu Gogledd Cymru i roi’r gorau i yfed neu ildio alcohol mewn man cyhoeddus. Nid yw’n berthnasol i ardaloedd eiddo trwyddedig e.e. gerddi cwrw ac ati.

 

Yna eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio'r orfodaeth y tu ôl i’r PSPOs ers i’r ymrwymiad gyda Kingdom ddod i ben bron i 2 flynedd yn ôl

·      Tîm gorfodi mewnol

·      Pwyslais ar ymgysylltu â thrigolion

·      Patrolau wedi eu harwain gan wybodaeth

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach drosolwg o’r Ymgynghoriad a oedd fod i bara am gyfnod ychydig yn hirach oherwydd yr argyfwng presennol a'r cyfnod gwyliau a oedd yn digwydd o ddechrau Awst tan ddiwedd wythnos gyntaf mis Medi.

 

·      Gofynion cyfreithiol gyda phartneriaid statudol

·      Arolwg ar-lein trigolion

·      Bwriad i adrodd canlyniadau’r broses ymgynghori yn ôl i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ym mis Medi 2020 i gytuno ar argymhelliad i'r Cabinet i gymeradwyo.

 

Ynghyd ag Aelodau eraill, cefnogodd y Cynghorydd Shotton ymestyn y ddau PSPO cyfredol o fewn Sir y Fflint ac roedd yn falch fod Swyddogion bellach yn ôl yn cynnal patrolau ar ôl cyflawni dyletswyddau eraill oherwydd Covid.Diolchodd i wirfoddolwyr iard gefn am y gwaith patrolio roeddent wedi’i wneud mewn parciau yng Nghei Connah a holodd a ellid hefyd cynnwys Parc Pysgota Rosie ym Mharc Gwepra yn y rhestr PSPO Rheoli C?n gan fod c?n oedd heb eu cadw ar denynnau wedi dinistrio offer pysgota ac hefyd wedi llad hwyaid.  Holodd y Cynghorydd Dunbobbin hefyd os gellid ymgynghori â’r Lluoedd Arfog fel rhan o’r ymgynghoriad gan mai yma mae’r nifer uchaf o gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru.

 

Roedd y Cynghorydd Dunbobbin eisiau annog y cyhoedd i rannu profiadau a fyddai’n cynyddu gwybodaeth ac yn amlygu mannau gwael. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hutchinson at ddigwyddiad yn ei ardal lle’r oedd gormod o ofn ar y person i adrodd hyn, gan ofni’r goblygiadau posibl. Gwnaeth sylw am bobl yn camddefnyddio’r rheolau gan roi enghraifft o rai pobl, nid pawb, yn pysgota ymhell i mewn i’r nos ac weithiau dros nos ar gomin Bwcle, gan dorri’r rheol i roi’r gorau iddi am 8.00pm.Daethpwyd o hyd i dystiolaeth yn y gwrychoedd o yfed a chymryd cyffuriau. Pwysodd y Cynghorydd Hutchinson ar y Pwyllgor i gefnogi’r ymgynghoriad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas y pwynt nad oedd ardaloedd ar gaeau chwarae bob amser wedi eu marcio a oedd yn caniatáu pobl i gerdded eu c?n ym mhobman. Awgrymodd na ddylid caniatáu unrhyw gi ar y caeau chwarae oni bai eu bod ar dennyn gan y byddent yn haws i'w rheoli. Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes y dylid gosod arwyddion metel ar bolion ac nid ar ffensys gan fod rhain yn mynd ar goll. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod yr RSPCA a’r Dogs Trust wedi nodi dair blynedd yn ôl yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol bod yn rhaid darparu mannau agored i g?n ymarfer corff yn arbennig c?n mwy o faint sydd angen rhedeg.  Eglurodd y dylid gosod mapiau ar bob mynedfa i barciau yn dangos y gwahanol barthau.Nid oedd pyllau d?r o fewn yr ardaloedd dan waharddiad ond roedd grym gan Swyddogion Awdurdodedig i ofyn i berchnogion roi eu c?n ar dennyn os oeddent yn achosi niwsans. Mae angen addysgu trigolion i godi gwastraff i fyny ar ôl eu c?n.

 

Diolchodd y Prif Swyddog ar gyfer Sir y Fflint i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Arweinydd Tîm Safonau Masnach am ei gwahodd hi i’r cyfarfod hwn a phwysleisiodd fod Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogol i’r PSPO Rheoli Alcohol a dywedodd ei bod yn anffodus fod yn rhaid ei adolygu bob 3 blynedd dan y ddeddfwriaeth. Mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei ystyried gan ei fod wedi dangos gostyngiad mewn troseddau’n ymwneud ag alcohol, yn bennaf ymosodiadau a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac roedd Staff yr Heddlu yn llwyr gefnogol i blismona hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Dolphin pam fod y PSPOs ond yn para am ddim mwy na 3 blynedd pan mai 5 mlynedd oedd tymor Cynghorydd yn y Swydd. Holodd sut y gellid ei ymestyn i 5 mlynedd. Mewn ymateb, dywedodd Prif Arolygydd Sir y Fflint ei fod yn benderfyniad gan D?'r Arglwyddi ac nid ar lefel lleol. Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaeth Stryd a Chludiant) y byddai’n trafod yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ac adrodd i’r Llywodraeth ac roedd y Pwyllgor yn cytuno gyda hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y Tîm Gorfodi yn cynnwys 7 Swyddog ac 1 Goruchwyliwr ac ers 2 wythnos, roedd y tîm yn ôl allan ar batrolau ar droed.Cytunodd i ddarparu nifer y cwynion a dderbyniwyd ers dechrau’r feirws i’r Aelodau.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Hinds pam nad oedd y PSPO Rheoli Alcohol yn cynnwys y gair cyffuriau gan fod yr Heddlu wedi cysylltu â hi yn ystod y cyfnod clo yngl?n â’r defnydd o gyffuriau yn ei hardal ar sawl achlysur.  Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi fod hyn yn cael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Cabinet. Ymatebodd y Prif Arolygydd dros Sir y Fflint drwy ddweud, er nad yw'r gair cyffuriau wedi ei gynnwys, roedd yr Arweinydd Tîm Safonau Masnach yn gwneud cryn dipyn o waith gyda Paul Firth a’i dîm i gefnogi unrhyw faterion mewn Cymunedau Lleol.  

 

Ymatebodd Arolygydd yr Heddlu dros Sir y Fflint i sylw a wnaed gan y Cynghorydd Hutchinson am gangiau o’r tu allan i’r dref yn targedu pobl ifanc. Eglurodd fod hwn yn flaenoriaeth a oedd yn rhan o Llinellau Sirol ac roeddynt yn gweithio gyda Heddlu Glannau Mersi ar hyn.Roedd cyfarfodydd i fod i gael eu cynnal dros yr wythnosau i ddod gydag amryw o sefydliadau, un ohonynt oedd y Bwrdd Cynllunio Ardal, i weld pa gefnogaeth y gellir ei gyflwyno mewn ardaloedd trafferthus. Cytunodd na fyddai modd datrys hyn dros nos ond rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod hyn yn rhywbeth roeddent o ddifrif amdano, yn gweithio arno'n barhaus ac nid oedd yn cael ei anwybyddu. 

 

Rhestrodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr eitemau y byddai hi a’r Cynghorydd Bithell yn adrodd arnynt i gyfarfod nesaf y Cabinet a oedd yn cael eu cefnogi gan y Pwyllgor.

 

            Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Veronica Gay.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r angen i ymgynghori â’r ymgyngoreion gofynnol a’r cyhoedd gyda’r diben o geisio barn i ymestyn y ddau PSPO cyfredol yn Sir y Fflint am gyfnod o dair blynedd;

 

 (b)      Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dulliau ymgynghori a gynigir yn yr adroddiad i geisio barn ar ymestyn y ddau PSPO cyfredol yn Sir y Fflint am gyfnod o dair blynedd; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet bod sylwadau’n cael ei cyflwyno i’r Llywodraeth ynghylch ymestyn y bwlch adnewyddu ar gyfer PSPO i 5 mlynedd.