Mater - penderfyniadau

Welsh Language Annual Monitoring Report 2019/20

26/08/2020 - Welsh Language Annual Monitoring Report 2019/20

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol 2019/20 ar yr Iaith Gymraeg, a oedd yn rhoi braslun o’r cynnydd a wnaethpwyd wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac yn nodi meysydd ar gyfer gwella.   

 

Eglurodd y Swyddog Datblygu Polisi fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut y mae wedi bodloni Safonau'r Iaith Gymraeg. Mae’r Safonau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â nhw yn cael eu nodi mewn Hysbysiad Cydymffurfio. Mae’r rhain yn unigryw i bob sefydliad ac maent yn nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir i bob sefydliad ei wneud a’i gyflawni yn Gymraeg ac erbyn pryd y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio.

 

Roedd yna feysydd cyflawni rhagorol yn hybu’r Gymraeg a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd yna hefyd dri maes a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd yn faterion oedd yn weddill fel meysydd ar gyfer gwneud cynnydd a gwella. 

 

Roedd yna ddwy wyn am y Gymraeg yn ystod 2019/20, o’i gymharu â chwech yn 2018/19.  Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg i beidio ymchwilio’r un o’r ddwy gwyn gan fod y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gywiro’r gwall. 

 

Cafodd y camau nesaf eu nodi fel:

 

·         Adroddiad canol blwyddyn ar feysydd ar gyfer gwneud cynnydd a gwella i’w gyflwyno i’r Cabinet;

·         Byddai gohebiaeth gweithlu yn cael ei chyhoeddi i gynyddu’r nifer o weithwyr oedd wedi cwblhau’r modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

·         Byddai gohebiaeth reolaidd yngl?n â chydymffurfio gyda dathliad Safonau’r Iaith Gymraeg yn cael ei rhannu gyda’r gweithlu; a

·         Gwaith gyda’r Rhwydwaith Iaith Gymraeg i leihau’r nifer o weithwyr oedd yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell ym mha ieithoedd oedd y ddogfen wedi’i chyhoeddi a dywedwyd mai yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os byddai yna gais iddo fod ar gael mewn iaith arall yna byddai yn cael ei ddarparu ar gais.    Dywedodd ei bod yn bwysig fod Cynghorwyr Sir hefyd yn mynychu modiwlau e-ddysgu. 

 

Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol: 

 

 “Fy marn i yw y dylai adroddiad blynyddol 2019/20 gael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, mae yna hepgoriad bach o fewn adroddiad blynyddol 2018/19, cyfeiriwyd at dair cwyn a gyfeiriwyd at Gomisiynydd y Gymraeg a dwy ohonynt wedi derbyn sylw. Adeg yr adroddiad, roedd y trydydd cwyn yn parhau i gael ei hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg.  Fodd bynnag, nid yw adroddiad 2019/20 yn cyfeirio at ganlyniad y trydydd cwyn 2018/19”. Roedd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb yn egluro y cyrhaeddwyd dyfarniad ac roedd y methiant yn ymwneud â chontractwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant yn cael eu nodi a bod adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 (b)      Rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi’r adroddiad ar wefan y Cyngor; a

 

 (c)       Cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.