Mater - penderfyniadau

Risk Management Framework

09/10/2020 - Risk Management Framework

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygu fframwaith rheoli risg mewnol gwell yn cynnwys dynodi risgiau a goruchwylio risgiau ariannol, meysydd a oedd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Ymgynghorydd Perfformiad Strategol gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Adolygiad o’r Fframwaith Risg

·         Categorïau risg

·         Mathau o risg

·         Rheoli Risg yn Weithredol

·         Risgiau Ariannol 2020/21

o   Cyflog (taliadau blynyddol)

o   Lleoliadau y tu allan i’r Sir

o   Cludiant Ysgol ôl-16

o   Cyllidebau Diffygiol Ysgolion

o   Cyllideb y flwyddyn hon

o   Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Y nod oedd cyflwyno dull mwy effeithiol, systematig i adnabod risgiau a thynnu sylw atynt, sef dull arfer gorau. Roedd y broses yn golygu ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol gyda thîm y Prif Swyddog a swyddogion perfformiad arweiniol y portffolio, ynghyd â’r tîm Archwilio Mewnol mewn rôl ymgynghorol. Fel rhan o’r cyflwyniad, rhoddwyd trosolwg o’r pedwar prif risg ‘agored’ y gellid eu hadrodd ar y cam hwn. Er enghraifft, ar Gyflog (taliadau blynyddol) lle nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad ar y sefyllfa genedlaethol ond gallai adeiladu hyblygrwydd digonol yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i leihau’r effaith. Er bod difrifoldeb yr effaith yn sylweddol, roedd y tebygolrwydd yn isel oherwydd y mesurau lliniaru hynny. Er bod gosod y gyllideb gyffredinol yn risg agored, roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a rheoli’r gyllideb y flwyddyn hon yn risgiau parhaus o hyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Jones yngl?n â’r risg i ddiwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol /Anghenion Dysgu Arbennig (ADY/ADA), dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn mynd rhagddo o hyd i asesu’r galw yn dilyn oedi yn yr arian grant cenedlaethol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar y categori risg ar gyfer iechyd a diogelwch, dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn yn gymwys i Leoliadau y tu allan i’r Sir oherwydd y cymhlethdodau cysylltiedig.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am y pwysau sylweddol oherwydd costau yn deillio o gyllidebau diffygiol yr ysgolion a oedd ar hyn o bryd wedi cael sgôr risg ‘du’ gan nad oedd mesurau ariannol wedi eu cymryd hyd yma.

 

Fel Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg a hefyd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Addysg, disgrifiodd y Cynghorydd ddiffygion yng nghyllidebau ysgolion fel canlyniad y cyfnod o lymder ac roedd yn destun pryder mawr ar draws Cymru.  Yn Sir y Fflint, roedd swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg trwyddedig ac roedd yn croesawu cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i newid trefniadau ariannu’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

 

Ar fater dyrannu risgiau ar draws pwyllgorau, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gytuno ar risgiau brys fel sail ar gyfer rhaglennu gwaith gweithredol. Awgrymodd y dylid adrodd ar statws y prif risgiau agored gerbron y Pwyllgor hwn ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin, ac o fis Gorffennaf ymlaen y dylai’r adroddiadau Monitro Cyllidebau Refeniw gynnwys adran yn rhoi diweddariad ar bob un.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid rhoi statws coch i’r holl risgiau iechyd a diogelwch, yn benodol Lleoliadau y tu allan i’r Sir lle’r oedd hyn yn brif risg. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y sgôr risg cyffredinol yn adlewyrchu statws presennol pob un o’r enghreifftiau byw hynny ac y byddai’n newid wrth i fesurau lliniaru gael eu cymryd yn y dyfodol, er enghraifft ar Gludiant Ysgol ôl-16 lle gallai trafodaethau cyfredol ar rannu costau cymesur leihau’r risg y flwyddyn hon yn sylweddol. Mater i’r Pwyllgor oedd penderfynu a oedd y mesurau lliniaru yn ddigonol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r ddogfen fframwaith risg yn dangos statws newidiol y risg cyn ac ar ôl y mesurau lliniaru.

 

Ar fater cyllidebau diffygiol ysgolion, dywedodd y Cynghorydd Jones y dylai’r Cyngor ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi ysgolion sydd mewn sefyllfa anghynaladwy er gwaethaf yr holl gamau a gymerwyd i leihau hyn. Siaradodd y Cynghorydd Roberts am yr heriau ariannol a oedd yn wynebu ysgolion a’r risgiau allanol i ddisgyblion a oedd yn deillio o waharddiadau. Mewn ymateb i sylwadau ar yr angen i ddarparu ar gyfer y risg rheoleiddiol, dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn yn gymwys i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig lle’r oedd y risg yn y dyfodol o fod mewn sefyllfa i bennu cyllideb wedi’i mantoli yn risg rheoleiddiol ac yn risg i enw da.

 

Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r swyddogion am yr adroddiad a oedd hefyd yn cynnwys cysylltiadau cadarnhaol gyda Chynllun y Cyngor a drafodwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones am yr angen i gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i Leoliadau y tu allan i’r Sir a chyllidebau diffygiol ysgolion. Esboniwyd bod y rhain ymhlith nifer o faterion yn ymwneud â phwysau cyllidebol y cafodd sylwadau eu cyflwyno amdanynt i Lywodraeth Cymru.

 

Cafodd yr argymhellion, a gafodd eu diwygio i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi’r gwaith ar y fframwaith rheoli risg a dynodi risgiau i bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn dilyn cyflwyniad gerbron y Pwyllgor; a

 

(b)       Bod adroddiadau cynnydd misol ar y prif ‘risgiau agored’ yn cael eu cyflwyno gerbron cyfarfodydd y Pwyllgor ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin.