Mater - penderfyniadau
School Modernisation - The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 - Lixwm School Re-designation
12/08/2020 - School Modernisation - The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 - Lixwm School Re-designation
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad i rannu manylion yr ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol ac i geisio cefnogaeth i'r ail-ddynodiad fynd yn ei flaen. Cadarnhaodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiad yn nodi uchafbwyntiau cryn dipyn o waith a wnaed gyda chymunedau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r cynnig i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol.