Mater - penderfyniadau

Certification of Grants and Returns 2018/19

26/11/2020 - Certification of Grants and Returns 2018/19

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019. Cafodd yr adroddiad ei ohirio yn y cyfarfod ym mis Mawrth yn sgil y sefyllfa argyfwng.

 

O’r cyfanswm grantiau o £148 miliwn, roedd yr addasiad net o £44,320 i hawliadau yn gyfran eithaf bychan ac ni arweiniodd at unrhyw golled ariannol. Er nad oedd y canfyddiadau yn cyflwyno risg mawr i berfformiad, canfuwyd gwelliannau o fewn rhai gwasanaethau ac roedd cynllun gweithredu wedi ei roi mewn lle. Adroddwyd bod yr holl gamau gweithredu bellach wedi cael eu cwblhau a bod y swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr Archwilio Cymru i wella safon yr hawliadau ymhellach er mwyn sicrhau digonoldeb y prosesau i gefnogi archwiliad 2019/20.

 

Wrth groesawu cyflawniad y camau gweithredu, dywedodd Mike Whiteley y byddai Archwilio Cymru yn parhau i ymgysylltu gyda swyddogion oedd yn paratoi’r hawliadau. Roedd diwygiad o flaenoriaethau archwilio allanol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn golygu y byddai Archwilio Cymru yn archwilio tri hawliad grant yn unig ar gyfer 2019/20, ar fudd-dal tai, ardrethi annomestig a ffurflenni pensiwn athrawon.

 

Gofynnodd Allan Rainford am eglurhad ar y pum hawliad ardystiedig a gyflwynwyd yn hwyr gan Archwilio Cymru. Eglurodd Mike Whiteley nad oedd oedi sylweddol gyda’r rhain ac roedd hyn yn sgil ffactorau amrywiol, yn bennaf oherwydd cymhlethdod ymholiadau a newidiadau o ran swyddogion o fewn gwasanaethau’r Cyngor. Roedd yn falch o adrodd bod yr ymgysylltiad ôl-ddysgu gyda’r Cyngor wedi arwain at welliannau i rwystro oedi pellach.

 

Roedd y pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2018/19.