Mater - penderfyniadau

Care Inspectorate Wales Activity Update

11/08/2020 - Care Inspectorate Wales Activity Update

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar y Wybodaeth Ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn crynhoi canfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn chwe diwrnod o weithgarwch wedi’i ffocysu / gweithgarwch ymgysylltu gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

            Rheoleiddiodd Arolygiaeth Gofal Cymru wasanaethau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr adborth ffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y gweithgarwch a gyflawnwyd ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref 2019 wedi bod yn gadarnhaol ac wedi amlygu nifer o feysydd lle berfformiodd y Cyngor yn dda iawn a lle roedd tystiolaeth o ganlyniadau da wedi’u cyflawni ar gyfer pobl yn y gymuned. Amlinellwyd crynodeb o’r canfyddiadau yn yr adroddiad, gan nodi’r meysydd ar gyfer gwella.

 

            Bydd y gweithgarwch wedi’i ffocysu nesaf mewn perthynas â chynnydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymweld ag unigolion a gweithwyr sy’n rhan o’r gwasanaeth cynnydd ym mis Chwefror 2020, gan edrych ar brosesau, canlyniadau a dyheadau ar gyfer y gwasanaeth.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ar ymweliadau diweddar a wnaeth i’r adrannau, bod yr holl weithwyr yn angerddol am y gwasanaethau yr oeddent yn eu darparu.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn eu gweithgarwch wedi’i ffocysu / ymgysylltiad diweddar gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

 (b)      Nodi’r ymateb i unrhyw feysydd ar gyfer gwelliant a ganfuwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystod y flwydd; a

 

 (c)       Mae’r Cabinet yn cael eu hysbysu am weithgarwch wedi’i ffocysu sydd ar y gweill gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn Sir y Fflint.