Mater - penderfyniadau
Care Inspectorate Wales (CIW) Activity Update
02/10/2020 - Care Inspectorate Wales (CIW) Activity Update
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i nodi’r adborth cadarnhaol oeddent wedi’i gael gan AGC a’r ymateb i unrhyw feysydd i’w gwella a nodwyd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dweud bod AGC wedi cynnal 6 diwrnod o weithgarwch gyda chanolbwynt gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019 yn ystyried Diogelu Oedolion a gwaith yr Uned Ddiogelu yn Fflint, y cynlluniau Gofal Ychwanegol a dull gweithredu’r Cyngor i roi Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, Cymorth Cynnar a phrofiadau’r plant sy'n derbyn gofal Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod adborth swyddogol gan AGC am y gweithgareddau uchod wedi bod yn gadarnhaol a’u bod wedi amlygu nifer o feysydd lle roedd y Cyngor yn perfformio’n dda iawn ac roedd deilliannau da yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl yn y gymuned.
Rhoddodd y Prif Swyddog gyfle i’r Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu, yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig a’r Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adrodd am ganfyddiadau AGC yn eu meysydd gwasanaeth nhw.
Canmolodd yr Aelodau yr amrywiaeth arloesol o wasanaethau a ddarperir ac roedden nhw’n teimlo bod hyn yn greiddiol i drawsnewid ansawdd bywyd sawl unigolyn.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd am faterion fel addysg rhyw ac atal, iechyd meddwl a lles a bwlio.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan yr AGC yn dilyn eu gweithgarwch diweddar gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
(b) Nodi ymateb y Cyngor i unrhyw feysydd gwella a nodwyd gan AGC yn ystod y flwyddyn; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cael gwybod am weithgarwch pellach gan AGC yn Sir y Fflint.