Mater - penderfyniadau
Update on the Progress of the Mold to Broughton Cycleway
23/04/2020 - Update on the Progress of the Mold to Broughton Cycleway
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas ddiweddariad ar yr adroddiad Cynnydd y Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau proses ymgynghori cyhoeddus eang a manwl a fydd yn dechrau ym mis Chwefror 2020, i helpu gwblhau’r llwybr a fyddai'n destun cynnig cyllid Llywodraeth Cymru yn 2020/21.
Yn dilyn gwerthusiad ar y llwybr a gyflawnwyd, cynigiwyd y bydd y llwybr beicio o’r Wyddgrug i Frychdyn yn cysylltu yn y diwedd â chymunedau Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft, gan ddapraru cysylltiadau i orsafoedd drenau cyfredol ym Mwcle a Phenyffordd a chanolfannau cyflogaeth.
Bydd y broses ymgynghori hon yn rhoi cyfle i rhanddeiliaid weld y llwybr a ffefrir a chyfle i roi sylwadau, a fyddai hefyd yn cael eu cynnwys o fewn y cynllun cyffredinol lle bo'n ymarferol i wneud. Byddai’r ymgynghoriad yn cynnwys gweithdy i Aelodau, sesiynau galw heibio i'r cyhoedd, ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned, ymweliadau i fusnesau lleol, ffurflenni adborth papur a phorth ymgynghori cymunedol ar-lein. Roedd strategaeth gyfathrebu yn cael ei datblygu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r wasg lleol.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd y Cynllun Beicio o’r Wyddgrug i Frychdyn yn cael ei gyflwyno fel cais Strategol y Cyngor dan Cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.
Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a rhoi sylw ar yr effaith gadarnhaol y bydd y llwybr beicio yn ei gael ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan y byddai'n cael gwared ar rwystrau i rai bobl sydd eisiau mynediad at gyflogaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi cynnydd y cynllun Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn; a
(b) I gymeradwyo dechrau’r broses ymgynghori ar y Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn gydag Aelodau lleol, Cynghorau Tref a Chymuned, aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb.