Mater - penderfyniadau
School Attendance
22/10/2020 - School Attendance
Yn gyntaf cyflwynodd yr Uwch Reolwr Mr John Grant (Uwch Ymgynghorydd Dysgu – y Gwasanaeth Ymgysylltu, Cynhwysiant a Chynnydd) a amlinellodd ei brofiad i’r pwyllgor. Cafodd ei groesawu gan y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor.
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint. Nodwyd bod absenoldebau oherwydd salwch yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r absenoldebau a bod lefelau absenoldeb cyson yn dal i fod yn gymharol uchel.
Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu fod sicrhau presenoldeb mewn ysgolion yn anodd gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion a oedd yn adrodd am broblemau iechyd meddwl ac nad oeddynt yn ymgysylltu â’r ysgol ac roedd cydweithwyr CAMHS yn rhoi cymorth i’r disgyblion hyn. Esboniodd fod y gwasanaeth yn ceisio bod yn fwy hyblyg gan ymateb i anghenion y plant ac y byddai deall yr heriau yn ei gwneud yn bosibl i fwrw ymlaen â chynllun hirdymor. Yna, cyfeiriodd at Gynhadledd Penaethiaid Ysgolion lle’r oedd cydweithwyr wedi trafod a chydnabod y pwysau a oedd yn gysylltiedig. Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1 yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd Mr Hytch at wyliau yn ystod y tymor a gofynnodd a oedd yn gyfreithiol i’w hawdurdodi a pha mor gadarn oedd y ffigyrau, hefyd cwestiynodd ffigyrau presenoldeb y chwartel a fyddai’n gallu symud o wyrdd i goch petai llawer o ddisgyblion yn dal y ffliw. O ran addysg uwchradd, gofynnodd a oedd ffigyrau absenoldeb yn cynnwys gallu plentyn i ymdopi â’r addysg a ddarparwyd ac a fyddai’r pwysau hwn yn gallu achosi absenoldebau oherwydd iechyd meddwl. Roedd o’r farn nad oedd addasu’r cwricwlwm yn gweithio bob amser, a dywedodd fod angen darparu cymorth i’r haen islaw anghenion arbennig. Hefyd, gofynnodd a oedd gan y Gwasanaeth Iechyd yr adnoddau i gefnogi hyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at absenoldebau heb eu hawdurdodi ac absenoldebau wedi’u hawdurdodi ar gyfer gwyliau teuluol, a gofynnodd faint o’r rhain oedd yn bobl sy’n aildroseddu? Yn ôl yr hyn roedd yn ei ddeall, roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo 10 diwrnod o wyliau a bod gwyliau yn rhatach yn ystod y tymor hyd yn oed os oedd rhieni wedi cynnwys y gosb ariannol hefyd. Ategodd y Prif Swyddog y sylw hwn drwy ddweud ei fod yn anodd iawn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, i blant ddal i fyny gyda’u haddysg ond roedd yr achosion o hyn yn digwydd yn amlach mewn ysgolion cynradd nag mewn ysgolion uwchradd. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr fod swyddogion yn gweithio gyda Phenaethiaid Ysgolion er mwyn rhoi hyder iddynt herio rheini. Roedd y sefyllfa yn wahanol os oedd plentyn yn absennol yn aml oherwydd salwch ond roedd Penaethiaid bellach yn gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth feddygol.
Cytunodd y Prif Swyddog â sylwadau Mr Hytch ar chwarteli ond dywedodd fod hyn yn cyfrif am ganran fach. Hefyd, dywedodd ei bod hi wedi cyfarfod Penaethiaid i drafod cyllidebau ar gyfer pob math o anghenion. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod perthynas dda gyda chydweithwyr CAMHS ac roedd pob math o wasanaethau yn cael eu hystyried gan y gwasanaethau iechyd i roi cymorth i ddisgyblion â phroblemau iechyd meddwl.
Cyfeiriodd Mrs Stark at Dabl 5 (Rhesymau dros absenoldebau wedi’u hawdurdodi) ac roedd o’r farn bod rheswm C yn uchel iawn, a gofynnodd a oedd y codau ar goll a pham roedd y lefel salwch wedi gostwng. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai’r gwasanaeth yn edrych ar y data i gael gwell dealltwriaeth am hyn a bod codau C yn cynnwys yr effaith ar iechyd meddwl, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu y cefndir i’r dull gweithredu a oedd yn cael ei arwain gan y data a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl godau yn y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan. Roedd Mrs Stark yn pryderu yngl?n â’r unigolion os oedd hyn yn cael ei yrru gan ystadegau.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod llawer o’r plant sydd ddim yn gallu ymdopi â’r cwricwlwm yn fabanod cynamserol a gofynnodd a fyddai’n bosibl rhoi’r hawl i rieni adael i’w plant ddechrau yn yr ysgol ar ddyddiad disgwyliedig eu geni, yn hytrach na’u dyddiad geni, dylai rieni gael yr hawl i ddewis. Atebodd yr Uwch Reolwr, a dywedodd y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal mewn rhai achosion gyda rhieni plant a oedd yn ifanc iawn yn eu blwyddyn i hwyluso hyn lle bo’n briodol. Dywedodd fod ‘cyfnod’ yn hytrach nag ‘oedran’ yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm newydd a ddylai fod yn ddatblygiad cadarnhaol i’r disgyblion hyn a bydd llwyddiant y drefn newydd yn dibynnu ar y ffordd y bydd ysgolion yn ei rhoi ar waith.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at dudalen 28 a dywedodd nad plant sipsiwn/teithwyr oedd yr unig rai yr oedd angen cymorth arnynt er mwyn deall yr anawsterau roeddynt yn eu hwynebu yn yr ysgol; roedd hyn yn gymwys hefyd i blant o genhedloedd gwahanol a oedd yn siarad mwy nag un iaith. Roedd yr Uwch Reolwr yn falch iawn o’r gwasanaeth gwych a oedd yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth Sipsiwn/teithwyr a Saesneg fel Iaith Ychwanegol a oedd yn mynd y tu hwnt i’r ysgol yn cynorthwyo gydag apwyntiadau iechyd, er enghraifft. Yn Sir y Fflint, roedd 43 o ieithoedd yn cael eu siarad ac roedd cymorth yn cael ei ddarparu yn yr ysgolion ar gyfer y disgyblion hyn.
Cyfeiriodd Mrs Lynn Bartlett at dudalen 35 yn yr adroddiad, Tabl 6: (Absenoldeb Cyson) a dywedodd mai’r rhain oedd y rhieni a’r disgyblion y dylid canolbwyntio fwyaf arnynt. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd gosod pwysau ar ysgolion yn helpu’r sefyllfa ac roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn bellach. Er mwyn atal absenoldebau, roedd Arolygwyr Estyn yn datgan bod angen deall y broblem mewn ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr Hytch yngl?n ag absenoldeb cyson, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr mai’r ffigur a gafodd ei ddyfynnu oedd canran yr holl absenoldebau a oedd yn cael eu hystyried yn absenoldebau cyson.
Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett sut roedd canran absenoldebau yn cael ei diffinio. Cadarnhawyd mai’r diffiniad oedd presenoldeb o dan 80%. Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith sut byddai un diwrnod yn cael ei ddehongli, a chadarnhawyd y byddai’n cael ei ddangos fel dau sesiwn (bore a phrynhawn) gydag un wythnos yn cyfateb i 10 absenoldeb.
Gofynnodd Mrs Stark pryd byddai disgwyl i’r mater hwn ddod yn ôl gerbron y pwyllgor. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod data yn cael eu casglu bob blwyddyn ond gellid cyflwyno adroddiad interim gerbron y Pwyllgor ym mis Medi a gellid cynnwys manylion am absenoldebau cyson, adolygu ac archwilio, gwella’r gwasanaeth, cymorth i ysgolion ac iechyd meddwl a lles.
Cafodd yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Kevin Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r data presenoldeb ar gyfer ysgolion Sir y Fflint a’r camau a gymerwyd gan swyddogion i gynorthwyo ysgolion i wella lefelau ymgysylltu; a
(b) Bod adroddiad interim yn dod gerbron y pwyllgor ym mis Medi i gynnwys manylion am absenoldebau cyson, adolygu ac archwilio, gwella’r gwasanaeth, cymorth i ysgolion ac iechyd meddwl a lles.