Mater - penderfyniadau

Additional Learning Needs (ALN) Transformation

22/10/2020 - Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.  Byddai’r fframwaith statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol yn ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a Phobl Ifanc ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu (AAD) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16. Roedd yr amserlen ar gyfer rhoi’r Ddeddf ar waith bellach wedi symud i fis Medi 2021 er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio drwy’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.

 

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar gyfarfod o’r Fforwm ADY a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol a oedd yn trafod y swydd-ddisgrifiad ar gyfer swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mewn ysgolion.  Cadarnhaodd fod Jan Williams wedi cael ei phenodi dros dro fel Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar a bod y Bwrdd Iechyd yn edrych ar y sefyllfa ariannu er mwyn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig. Cyfeiriodd at Gynllun Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir y Fflint a’r gwaith oedd yn cael ei wneud i ddeall ‘beth oedd darpariaeth gyffredinol’. Roedd ysgolion yn gweithio mewn clystyrau yn Sir y Fflint ac yn rhanbarthol, gyda chydweithwyr Addysg Bellach a’r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhan o’r trafodaethau hyn. Cyfeiriodd hefyd at amserlen Llywodraeth Cymru, y goblygiadau o ran cost i’r Cyngor a’r angen am gyngor cyfreithiol clir i ddeall sut i ddehongli’r Ddeddf er mwyn sicrhau y byddai’r disgyblion sydd â’r angen mwyaf yn elwa ar hyn. O ran addysg ôl-16, dywedodd fod y sefyllfa yn aneglur ar hyn o bryd a bod angen eglurder ar y ddarpariaeth gyffredinol a’r fecanwaith ar gyfer datganoli’r arian ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.      

 

            Roedd y Cadeirydd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon yr awdurdodau lleol.

 

             Mynegodd y Cynghorydd Mackie ei bryder nad oedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r cymorth TG sydd ei angen ar unwaith a mynegodd ei bryder ynghylch yr amserlen 2-3 blynedd bosibl ar gyfer dod o hyd i’r cymorth hwn a’i roi ar waith. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ffurfiol eto. Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb a luniwyd gan ranbarth Gogledd Cymru wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ac roedd papur yn cael ei ysgrifennu i’w gyflwyno gerbron yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i’w ystyried; byddai cymhlethdod y system ofynnol yn achosi’r oedi posibl. 

 

            Gofynnodd Mrs Rebecca Stark gwestiynau am y swydd-ddisgrifiad, gan godi pryderon am y llwyth gwaith, yr oedi o ran y ddarpariaeth cymorth TG, y diffiniad o ddarpariaeth gyffredinol a gofynnodd a fyddai hyn yn aros yn rhanbarthol neu a fyddai’n dod yn genedlaethol. Hefyd, gofynnodd a oedd y rhaglen hyfforddi staff yn ddigon cadarn i sicrhau ei bod yn rhoi sylw i anghenion disgyblion. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn fel gweithred niwtral o ran cost ac ni chafwyd unrhyw awgrym a fyddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu am y cyfrifoldebau ychwanegol a fyddai’n dod yn sgil y Ddeddf.  Roedd arian ar gael drwy’r Grant Trawsnewid ADY i gefnogi gwaith paratoi cyn gweithredu ym mis Medi 2021 ac roedd hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith clystyrau a hyfforddiant mewnol; roedd pwysau’r costau posibl wrth roi hyn ar waith mewn ysgolion yn fater a oedd wedi cael ei godi fel risg ar lefel gorfforaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian grant ADY ychwanegol o £7.2m ar draws holl awdurdodau lleol Cymru ac roeddem yn aros am fanylion pellach yngl?n â’r swm a thelerau ac amodau’r grant.

 

            Ychwanegodd Mrs Stark fod pryderon difrifol, yn enwedig yn ymwneud â chyfraith achosion, a gofynnodd beth oedd safbwynt yr awdurdod ar y mater hwn. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr y gallai’r diffyg gwybodaeth fanwl gan Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth gyffredinol olygu bod yr ysgolion a’r Cyngor yn wynebu risg mewn Tribiwnlysoedd ac roedd yn bosibl y byddai angen cymorth cyfreithiol arbenigol ychwanegol ar ôl i’r diwygiadau gael eu rhoi ar waith.

 

            Roedd Mr David Hytch o’r farn y gallai achosion iechyd meddwl gael eu cynnwys yn y Ddeddf gan effeithio ar bresenoldeb disgyblion a gofynnodd am eglurder ar rolau a chapasiti swyddogion ADY. Cytunodd yr Uwch Reolwr, a chyflwynodd adroddiad ar gyfarfodydd hanner tymhorol rhanbarthol lle’r oedd cydweithwyr iechyd wedi bod yn bresennol yn achlysurol yn unig. Dywedodd y byddai gweithwyr proffesiynol iechyd yn gyfrifol am adnabod unrhyw ddarpariaeth fyddai ei hangen mewn ymateb i anghenion iechyd ac na allai’r Tribiwnlys gyfeirio’r Bwrdd Iechyd i gynnwys darpariaeth. Hefyd, dywedodd y byddai’n rhaid i’r rhieni ddefnyddio proses gwyno’r GIG os oedd unrhyw anghytundeb yngl?n â gofynion, ac roedd yn bosibl y byddai’n rhaid i’r Cyngor gynnig y ddarpariaeth nes y byddai’r anghydfod yn cael ei ddatrys. O ran addysg ôl-16, roedd Llywodraeth Cymru yn awgrymu darpariaeth wedi’i thargedu am hyd at 2 flynedd gydag awdurdodau lleol yn gyfrifol am gomisiynu ac ariannu hyn.  Mewn ymateb i’r ail bwynt, byddai gan y Swyddogion ADY rôl ymgynghorol a byddent yn rhoi cymorth i rieni, athrawon a gweithwyr allweddol i sicrhau bod yr ysgolion wedi paratoi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at bwynt 2.07 yn yr adroddiad a gofynnodd pwy fyddai’n gyfrifol am gadw’r data a darparu cymorth i bobl ifanc yn y ddalfa, plant oedd wedi dewis cael eu haddysg yn y cartref, a phlant teithwyr. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr mai cyfrifoldeb yr awdurdod fyddai adnabod a oedd angen cymorth ADY ar unigolyn ifanc, gan ddatblygu cynllun ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Ni fyddai’r awdurdod yn gyfrifol am gynnig darpariaeth i bobl ifanc yn y ddalfa. O ran pobl ifanc sy’n dewis cael eu haddysg yn y cartref, nid oedd arian yn y cyllidebau presennol i gynnal hyn ond gallai’r sefyllfa newid pan fyddai’r Cod yn cael ei ryddhau. Roedd data am y bobl ifanc hyn yn cael eu casglu’n flynyddol gan awdurdodau lleol a’u darparu i Lywodraeth Cymru. Gofynnodd y Cynghorydd Jones a fyddai angen asesu’r plant hyn hefyd. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr y byddent yn gwybod am rai o’r plant oherwydd eu bod wedi mynychu’r ysgol o bosibl cyn derbyn eu haddysg yn y cartref, ond roedd yn debygol y byddai ganddynt rôl i’w chwarae i gynnal asesiad os nad oedd un wedi’i gynnal. Un anhawster penodol yn ymwneud â’r gymuned teithwyr oedd y ffaith bod teuluoedd yn symud cyn i’r asesiad gael ei gwblhau’n llwyr. Ychwanegodd mai un o fanteision y broses newydd oedd y byddai ysgolion yn penderfynu a oedd angen cymorth ADY yn hytrach nag aros am asesiad, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylai’r pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am esboniad mwy llawn yngl?n â pham roedd y mater hwn yn cael ei ystyried yn niwtral o ran cost. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y llythyr blaenorol a oedd eisoes wedi’i anfon yn ymdrin â’r mater hwn. Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylid ysgrifennu llythyr tebyg i ategu’r pryder ac y dylid cynnwys paragraff ychwanegol yn y llythyr yn gofyn am ddiffiniad o ddarpariaeth gyffredinol. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i wneud hyn ac roedd o’r fan bod disgwyliad y byddai Awdurdodau Lleol ac Ysgolion yn ysgwyddo’r costau. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Prif Swyddog ysgrifennu llythyr arall at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch beth yn union oedd yn gwneud costau yn niwtral, ac yn gofyn am eglurder yngl?n â diffiniad Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth gyffredinol. 

 

Gofynnodd Mrs Stark a fyddai’n bosibl darparu rhagor o wybodaeth yngl?n â’r costau i ysgolion hyd yma, hefyd a fyddai’n bosibl cyflwyno rhai rhagamcanion ar sail tystiolaeth gerbron y pwyllgor hwn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad ychwanegol hwn gan y Cynghorydd Hughes ac fe’i eiliwyd gan Mrs Stark.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

(b)       Bod llythyr yn gofyn am eglurder yngl?n â sut fyddai’r Ddeddf yn niwtral o ran cost a diffiniad o’r term ‘darpariaeth gyffredinol’ yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru; a

 

(c)        Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor yn dilyn gweithredu’r Ddeddf.