Mater - penderfyniadau

Treasury Management Strategy 2020/21

05/01/2021 - Treasury Management Strategy 2020/21

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Pwyllgor Archwilio wedi adolygu’r Strategaeth mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020 a rhoddwyd adborth i’r Cabinet mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn y Cyngor Sir.Roedd cwestiynau’r Pwyllgor Archwilio ac ymatebion y Swyddogion wedi’u manylu ym mharagraff 1.15 adroddiad y Cabinet, dyddiedig 18 Chwefror 2020. Ar ôl ystyriaeth, roedd y Cabinet wedi argymell y Strategaeth i’r Cyngor ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y cyfan nad oedd y Strategaeth wedi newid ers y llynedd. Fe eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau am fuddsoddiadau Awdurdod Lleol ym mis Tachwedd 2019 a fyddai’n dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Roedd mwyafrif y newidiadau wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth a byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Prif Weithredwr, a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith. Cyfeiriodd at gwestiynau’r Pwyllgor Archwilio am y Strategaeth ddrafft yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, a dywedodd fod y Pwyllgor yn fodlon ag ymateb y Swyddogion. Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21.