Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 10)

12/08/2020 - Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 10)

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw Cronfa'r Cyngor a Chyfrif Refeniw Tai fel ym Mis 10. Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yr un fath. Ni chodwyd unrhyw faterion ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Roedd y diffyg gweithredol o £1.625m sy’n symudiad ffafriol o £0.041m o’r ffigwr diffyg £1.666m a adroddwyd ym Mis 9; a

·         Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £3.244m.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.062m sydd yn is na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.165m o’r ffigur diffyg o £0.103m a adroddwyd ym Mis 9; a

·         Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.385m.

 

Roedd y mesurau a gyflwynwyd i liniaru'r sefyllfa gorwario a ragwelir yn gyffredinol wedi cael effaith gadarnhaol a byddai'r gwaith hwn yn parhau gyda meysydd penodol o dan adolygiad tactegol fel y manylir yn yr adroddiad. Gallai'r potensial ar gyfer dyfarniadau grant hwyr gan Lywodraeth Cymru (LlC) hefyd wella'r canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn.

 

O ran yr amrywiannau sylweddol, arhoswyd am gadarnhad ynghylch dyraniad y Cyngor o arian grant Pwysau Gaeaf Ychwanegol i'w ddosbarthu trwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

O ran Cronfeydd wrth Gefn a Balansau, y balans a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn ar Gronfeydd wrth Gefn oedd £3.244m.

 

Roedd un cais am ddwyn arian ymlaen ar gynllun grant Seilwaith Mewn Ysgolion Hwb yr oedd angen ei hawlio cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai’r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi rhwydweithiau TGCh ysgolion yn erbyn gwariant presennol yn ystod y flwyddyn, gan ofyn am gymeradwyaeth i'r tanwariant o ganlyniad gael ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf i ariannu'r cam gweithredu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd disgwyl unrhyw newid sylweddol i sefyllfa diwedd blwyddyn a bod oedi mewn gwariant yn codi o fynd i’r afael â materion llifogydd yn bosibilrwydd.  Ni ddisgwylid unrhyw wariant brys ychwanegol mewn ymateb i'r Coronafeirws, ond roedd swyddogion yn gweithio ar gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21. Byddai unrhyw wybodaeth am gyllid cenedlaethol i gefnogi gwasanaethau ac incwm coll yn cael ei rhannu pan fyddai ar gael.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020;

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Cymeradwyo’r cais i ddwyn ymlaen ym mharagraff 1.22.