Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 9)

11/08/2020 - Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 9)

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 9 o’r flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Roedd y diffyg gweithredol o £1.666m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.226M o’r ffigwr diffyg £1.892M a adroddwyd ym Mis 8; a
  • Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £3.203M.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.103M sydd yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.028M o’r ffigwr diffyg o £0.131M a adroddwyd ym Mis 8; a
  • Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.220M.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol lle mynegodd Aelodau eu pryder ar ddiffyg ariannol ysgolion.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai.