Mater - penderfyniadau
Capital Programme Monitoring 2019/20 (Month 9)
11/08/2020 - Capital Programme Monitoring 2019/20 (Month 9)
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2019), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £19.009m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiadau net o £13.544M (Cronfa'r Cyngor £8.141M, Cyfrif Refeniw Tai £5.403M);
· Dwyn ymlaen i 2020/21, cymeradwywyd ym Mis 6 o £5.115M; a
· Arbedion a nodwyd ym Mis 6 o £0.350M.
Y gwariant gwirioneddol oedd £43.367M.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y sefyllfa gyllido a adroddwyd ym Mis 6 ar gyfer y cyfnod tair blynedd yn gorffen yn 2021/22 yn ddiffyg o £0.723M. Roedd derbyniadau yn ystod y flwyddyn wedi cynyddu £0.030M o Fis 6 i roi diffyg arfaethedig diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £0.693M ar gyfer 2019/20 – 2021/22, cyn derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllido eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran dwyn cyllid ymlaen fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;
(c) Cymeradwyo cyllido cynlluniau o’r sefyllfa bresennol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a defnyddio arbedion a nodwyd yn yr adroddiad; a
(d) Cymeradwyo’r defnydd o gyllid Ysgogiad Economaidd.