Mater - penderfyniadau
Flintshire Integrated Transport Strategy
31/03/2020 - Flintshire Integrated Transport Strategy
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint a gyflwynwyd diwethaf i’r Cabinet yn 2018.
Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd gyflwyniad ar y cyd oedd yn delio â’r meysydd canlynol:-
· Hierarchaeth Cludiant yng Nghymru;
· Nodau ac Amcanion
· Ateb Cwbl Integredig;
· Blaenoriaethau Allweddol Sir y Fflint; a’r
· Allwedd i Lwyddiant
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am eu gwaith yn llunio’r Strategaeth Cludiant Integredig, dyma sylw a gefnogwyd gan nifer o Aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd manylion o’r mentrau a gyflwynwyd yng Nghei Connah, yn cynnwys y groesfan newydd i gerddwyr ar Ffordd yr Wyddgrug a’r gwelliannau i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy a gafodd eu croesawu. Gofynnodd am sicrwydd ynghylch amlder a diogelwch y rhwydwaith bws wrth symud ymlaen i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i gyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Wrth ymateb i’w gwestiwn fe groesawodd y Cynghorydd Dave Wisinger y wybodaeth a ddarparodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyflwyno llwybr beicio o’r Wyddgrug i Airbus a fyddai’n cysylltu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn cynnwys Queensferry a Sandycroft.
Croesawodd y Cynghorydd Chris Dolphin y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwasanaethau bws mewn ardaloedd gwledig. Mynegodd ei bryderon ynghylch Trafnidiaeth Cymru yn lleihau amseroedd ac amlder gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru ond fe groesawodd y sylwadau gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet fod adborth a chynrychiolaeth ar y pryderon hyn yn cael eu gwneud gan y Cyngor. Fe groesawodd y mesurau diogelwch arfaethedig ar gyfer Well Hill, Treffynnon. Mewn ymateb i’w gais ar ddiweddaru’r amserlenni bysiau mewn gorsafoedd bysiau ar draws Sir y Fflint fe sicrhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ei fod yn y broses o gael ei ddiweddaru.
Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am eglurhad ar y union leoliad i bobl gael mynediad i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy. Eglurodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau man codi/gollwng ar gyfer Gwasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy ar Ffordd Tata Steel.
Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas y byddai wedi hoffi gweld cyfeiriad at drydaneiddio’r llinell rheilffordd yn y Strategaeth gan dynnu sylw hefyd at y gwyriadau rheolaidd yn eu lle oherwydd achosion ar yr A55 a oedd yn ei farn ef yn cael effaith andwyol ar rwydwaith y Sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar fannau cyfyng yn dilyn gwyriadau o’r A55 ond fe sicrhaodd yr Aelodau fod y Cyngor yn edrych am gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith gwelliannau o ganlyniad i ddefnydd ychwanegol o rwydwaith y Sir.
Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle ei bryderon am y cynigion i gyflwyno llwybr beics ar hyd Aston Hill a’r diffyg ymgynghoriad a fu gydag Aelodau Lleol. Roedd ganddo bryderon diogelwch os oedd y llwybr beicio ddim yn cynnwys rhwystrau diogelwch. Cytunodd y Prif Swyddog i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Hardcastle ar ôl y cyfarfod.
Trafododd y Cynghorydd Mike Peers nodau ac amcanion y Strategaeth ond teimlai nad oedd y Cyngor wedi’u cyflawni eto. Gofynnodd bod adroddiad ar wasanaethau ychwanegol ar hyd y ffin yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol yn dilyn pryderon blaenorol y Cynghorydd Dave Evans fod gwasanaethau ychwanegol yn gallu arwain at leihad mewn gorsafoedd stopio. Fe groesawodd y mesurau diogelwch a gyflwynwyd yn Ysgol Gynradd Mountain Laneond fe dynnodd sylw at y pryderon nad oedden nhw’n cael eu gorfodi a gofynnodd p’un ai y dylid ystyried cyfnod o beilota camerâu yn y lleoliad. Fe gwestiynodd y ffi o £10 hefyd ar gyfer defnyddio Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw ac roedd yn bryderus fod hynny’n anfanteisiol i breswylwyr mewn ardaloedd gwledig. Manylodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet y gwaith sy’n cael ei wneud gan swyddogion i gwrdd â nodau ag amcanion y Strategaeth, yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gwella cysylltiadau cludiant i Ysbyty Maelor Wrecsam. Fe eglurodd hefyd yn ystod ymgynghoriad fod preswylwyr wedi cytuno â’r ffi o £10 gan fod y gwasanaeth yn ddibynnol ar argaeledd cyllid grant i’w wneud yn hyfyw i barhau ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r gobaith oedd drwy gynnal gwybodaeth ar y preswylwyr yn ystod y Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw, y byddai’n bosib yn y dyfodol i gysylltu â nhw pan fyddai digwyddiadau yn cael eu trefnu yn eu hardal, er mwyn gallu darparu nhw â chludiant i’r digwyddiadau hyn.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers ar nifer y mentrau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yng Nglannau Dyfrdwy, dyma’r Aelod Cabinet ar gyfer Datblygiad Economaidd yn tynnu sylw at y lefel o gyllid a oedd wedi cael ei dynnu o’r gwasanaeth dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynghorodd nad oedd llwybr bysiau i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ond dywedodd am y pwysigrwydd o sicrhau fod y 9,900 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan y Parc yn gallu cael mynediad i gyflogaeth trwy gludiant cyhoeddus.
Mynegodd y Cynghorydd Ray Hughes bryderon am gael gwared ar lwybr bysiau o fewn ei ward a gofynnodd os oedd bwriad rhoi i breswylwyr i gael mynediad i fwynderau. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet bod y Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw yn helpu preswylwyr ac yn rhoi manylion o’i lansiad cynharach yn y dydd. Cytunwyd i ddosbarthu gwybodaeth ar y Gwasanaeth hwn i’r holl Aelodau ar ôl y cyfarfod.
Er bod y Cynghorydd Paul Johnson yn croesawu’r adroddiad fe ddywedodd bod angen am brisiau siwrnai wedi’u rheoleiddio, a thynnodd sylw at gost uchel trên o Fflint i Lundain. Dywedodd y Prif Swyddog bod prisiau siwrnai ar gyfer y trên allan o ddwylo’r Cyngor ond pe bai’r gwasanaeth yn ddibynadwy yna byddai mwy o obaith i bobl ei ddefnyddio ac felly byddai’r prisiau yn lleihau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi bod hierarchaeth strategaeth cludiant yng Nghymru a’r berthynas rhwng polisi cenedlaethol a lleol yn helpu i adnabod yr ymyraethau uniongyrchol sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau cludiant allweddol; a
(b) Nodi cynnydd y Cyngor ar yr ymyraethau allweddol wedi’u diffinio yn y Cydgynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru bresennol.