Mater - penderfyniadau

Outcome of the Wales Audit Office Audit on Flintshire Household Recycling Centres

02/10/2020 - Outcome of the Wales Audit Office Audit on Flintshire Household Recycling Centres

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar ganlyniad adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr arolwg newydd, yn ystod Ebrill a Mai 2019, o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Sir y Fflint gan Swyddfa Archwilio Cymru, i ystyried trefniadau cyfredol y Cyngor a pherfformiad yn erbyn y weledigaeth a nodir yn y Strategaeth Gwastraff Trefol. Rhoddodd wybod fod yr adroddiad yn rhoi manylion canfyddiadau’r adroddiad archwilio, a rhoddodd argymhellion ar gyfer darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. 

 

Cafodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio wahoddiad gan y Prif Swyddog i adrodd ynghylch y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Wrth ddod i gasgliad, rhoddodd wybod fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhoi gwybod bod y Cyngor yn dilyn gweledigaeth glir, yn parhau i fuddsoddi yn ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, a’i fod yn gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth i’w helpu i wneud y cyhoedd yn fodlon. Fe wnaeth argymhelliad i wella dealltwriaeth preswylwyr Sir y Fflint o ailgylchu adlewyrchu canlyniad o arolwg y cyhoedd gan y Cyngor ei hun, a ddigwyddodd ym Medi/Hydref 2019. Fe wnaeth arolwg Swyddfa Archwilio Cymru hefyd dynnu sylw at bryderon preswylwyr ynghylch oriau agor safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ac wedi gofyn am oriau agor rheolaidd yn ystod y flwyddyn.Cynigiwyd bod yr oriau agor yn aros yr un fath drwy gydol y flwyddyn.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd David Evans sylw ar ei brofiad ei hun o ddefnyddio safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, a mynegodd ychydig o bryderon o ran gweithrediad y safle. Croesawodd y newid yn yr amseroedd agor a chau, a fyddai’n sicrhau cysondeb drwy gydol y flwyddyn.

 

Canmolwyd y Prif Swyddog a’i dîm gan y Cadeirydd, am yr amrediad eang o ddeunyddiau gwastraff ac y gellir eu hailgylchu mewn safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

 

Fe longyfarchwyd y Prif Swyddog hefyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes am yr ymgyrch ailgylchu dros y Nadolig, gan ddweud ei bod wedi’i hyrwyddo’n dda drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ati. Rhoddodd y Cynghorydd Hughes sylw ar waredu asbestos, a oedd ond ar gael yn safleoedd Canolfannau Bwcle a Maes Glas, a mynegodd y farn y gallai hyn arwain at dipio gwastraff asbestos yn anghyfreithlon. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod angen trwydded amgylcheddol i gael gwared ar asbestos, a oedd ond ar gael mewn dau safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Sir y Fflint, ond y gellid adolygu hyn yn y dyfodol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ray Hughes gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canlyniad archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr argymhellion o’r adroddiad i wella dealltwriaeth o amgylch ailgylchu a threfniadau gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint, yn cael eu cefnogi.