Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
18/09/2020 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Ystyriwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Cytunwyd y byddai eitem ar faterion Cod Ymddygiad (a allai fod wedi codi o gyfnod yr Etholiad) ac eitem ar Gysylltu â’r Cyngor ar Faterion Moesegol (adborth o’r cyfarfod a oedd ar y gweill gyda’r Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor) yn cael eu cynnwys ar y Rhaglen i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 3 Chwefror 2020. Cytunwyd hefyd y byddai’r eitem am y Weithdrefn Adrodd Cyfrinachol, a oedd wedi’i threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf, yn cael ei gohirio i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn cyflwyno eitem i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i edrych ar greu is-bwyllgor i alluogi’r Pwyllgor Safonau i ystyried ceisiadau brys ar gyfer goddefebau sy’n codi rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor a drefnwyd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.