Mater - penderfyniadau
Initial Roll-Out of Electric Vehicle Charging Points in Flintshire
17/04/2020 - Initial Roll-Out of Electric Vehicle Charging Points in Flintshire
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar y Cyflwyniad Cychwynnol o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn Sir y Fflint oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ariannu wyth o safleoedd blaenoriaeth Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (ECPs) a nodwyd yn sgil astudiaeth ddichonoldeb ddiweddar.
Ar ôl llwyddo i gael grant yn 2018, gwnaed astudiaeth i ganfod:
- Y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer gosod pwyntiau ECP;
- Y costau cysylltiedig a’r opsiynau ar gyfer darpariaeth barhaus ym mhob lleoliad; a
- Rheoli pwyntiau ECP, a’r galw amdanynt, mewn ardaloedd gwledig
O ganlyniad i’r broses asesu, nodwyd yr 8 safle sydd yn yr adroddiad fel blaenoriaethau. Byddai’r math o bwynt gwefru a osodir ym mhob lleoliad yn ystyried natur unigol y defnydd tebygol.
Byddai’r Cyngor yn gwneud cais am arian drwy’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) oedd yn caniatáu i awdurdodau lleol dderbyn arian tuag at gostau gosod pwyntiau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan. Byddai’r cynllun grant yn cynnwys hyd at 75% o gost cyfalaf caffael a gosod y pwynt gwefru gyda’r 25% oedd yn weddill yn cael ei ariannu drwy gynghorau unigol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cais am arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i osod Pwyntiau Gwefru Trydan mewn 8 lleoliad blaenoriaeth o ganlyniad i astudiaeth ddichonoldeb drwy’r Sir.