Mater - penderfyniadau

Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process

17/04/2020 - Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Ganlyniad Proses Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff oedd yn darparu adborth o ymarferiad ymgynghori ac yn gwneud argymhellion ar y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol yn y Sir. 

 

            Roedd y perfformiad ailgylchu presennol o 69.16% i’w ddathlu ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliannau o ran perfformiad yn dod yn anodd eu cyflawni. 

 

Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, y targed ynni oedd 70% ac roedd hwnnw eisoes bron wedi’i gyflawni. Roedd yn bwysig bod y Cyngor yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth mwy y gellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu fwy fyth. 

 

            Cafwyd 8,770 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Rhoi tic yn y bocs i gwestiynau penodol oedd y rhan fwyaf o’r atebion, ond derbyniwyd 3,036 o sylwadau unigol hefyd. Atodwyd crynodeb o’r ymatebion i bob un o’r cwestiynau penodol. Casglwyd sylwadau ychwanegol o dan y categorïau canlynol:

 

  • Adborth ar y ddarpariaeth gwasanaeth presennol;
  • Dryswch ynghylch beth ellir/na ellir ei ailgylchu;
  • Awgrymiadau ar gyfer un bin ar gyfer ailgylchu popeth;
  • Pryder ynghylch tipio anghyfreithlon yn sgil chasgliadau llai aml;
  • Byddai teuluoedd mawr yn cael trafferth gyda chasgliadau llai aml; a
  • Thalu mwy o Dreth y Cyngor am lai o wasanaethau

 

Yn sgil yr ymgynghoriad, yr argymhellion oedd:

 

1.    Peidio â chasglu biniau du’n llai aml ar hyn o bryd – i’w adolygu mewn 12 mis;

2.    Cynyddu gorfodaeth i’r rhai nad ydynt yn ailgylchu eu gwastraff;

3.    Gwella addysg a gwybodaeth;

4.    Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol – Cewynnau;

5.    Cynnal adolygiad llawn o gasgliadau gwastraff; a

6.    Chasglu cardfwrdd a phapur ar wahân ar ymyl y ffordd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r cyhoedd am eu helpu i gyrraedd y cyfraddau ailgylchu presennol; Sir y Fflint oedd y 3ydd gorau yng Nghymru, a Chymru oedd y 3ydd gorau yn y byd.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle’r oeddent yn adolygu’’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl, ac yn argymell y cynigion a amlinellir uchod i’r Cabinet.  Hefyd gofynnwyd am baratoi dogfen yn y Flwyddyn Newydd i’w chyhoeddi ar wefan y Cyngor i fynd i’r afael â phob un o’r sylwadau unigol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor; a

 

(b)       Chymeradwyo’r argymhellion ar ddyfodol y gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff.