Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 8)
23/04/2020 - Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 8)
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl gyntaf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 ar gyfer y Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 8 o’r flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Roedd y diffyg gweithredol o £1.892m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.301M o’r ffigwr diffyg £2.193M a adroddwyd ym Mis 7; a
- Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £2.977m.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.131M sydd yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad negyddol o £0.109M o’r ffigur diffyg o £0.022M a adroddwyd ym Mis 7; a
- Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.192m.
Fel y nodwyd yn flaenorol, ac i gynorthwyo â lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragamcanwyd, cyflwynwyd y mesurau canlynol o Fis 6 ymlaen:
1. Pob gwariant dianghenraid i’w adolygu a’u herio gyda’r bwriad i derfynu/ oedi lle y gellir; a
2. Her pellach i dîm rheoli portffolio i recriwtio ar gyfer swyddi gwag h.y. terfynu/ oedi.
Ym Mis 6, mae hyn wedi arwain at adnabod oedi unwaith yn unig mewn gwariant o £0.530M sydd wedi helpu i leihau'r sefyllfa o orwariant cyffredinol yn sylweddol. Mae gostyngiadau pellach mewn gorwariant ym Mis 7 a Mis 8 wedi cyflawni'n bennaf wrth barhau â’r mesurau hyn. Bydd gwaith yn parhau i Fis 9 a thu hwnt gyda’r un manylder a her mewn ymdrech i wella’r sefyllfa cyffredinol ymhellach.
Mae Tîm y Prif Swyddog wedi gosod targed i leihau'r sefyllfa gorwariant o fewn ystod o £1.500M - £1.750M erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, er byddai hynny yn parhau i fod yn fwy na tharged dangosydd perfformiad a osodir o fewn y MTFS o £1.350M, sef 0.5% o'r Gyllideb Refeniw Net.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaeth wedi bod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr opsiynau tactegol i leihau'r diffyg a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y mis canlynol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falensau a ragamcanwyd y Cyfrif Refeniw Tai.