Mater - penderfyniadau
Annual Review of the Code of Corporate Governance
30/07/2020 - Code of Corporate Governance
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol. Yn dilyn adolygiad sylweddol yn 2017, dim ond mân newidiadau a wnaed ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at yr adroddiad diweddar i’r Cyngor ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a oedd yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer ail-enwi’r Pwyllgor Archwilio fel y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cafodd y cynnig i newid yr enw i adlewyrchu rôl y Pwyllgor yn well ei wrthod yn dilyn trafodaeth, gan gydnabod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor.
Wrth rannu cefndir i ymgynghoriad polisi Llywodraeth Cymru, eglurodd y Prif Weithredwr nodau’r diwygiadau a sut y gallai hyn weithio’n effeithiol o fewn y Cyngor. Roedd ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad yn gofyn am ddisgresiwn lleol ar sut oedd hyn yn cael ei gymhwyso i’r rolau gwahanol yn y pwyllgor o fewn y fframwaith cyn i’r Bil ddod i rym.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Woolley, nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad er mwyn argymell i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r newidiadau. Ar y cam hwn y byddai’r Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.